Os gofynnwyd i chi gymryd rhan yn yr Arolwg Barn a Ffordd o Fyw Ar-lein

Ewch i'n tudalen astudiaeth Barn a Ffordd o Fyw a rhowch y cod mynediad unigryw sydd ar eich llythyr gwahoddiad. Os oes angen help arnoch, ffoniwch ni am ddim ar 0800 298 5313. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan

Os hoffech ddefnyddio ein harolwg omnibws i gasglu eich data

Gallwn roi eich cwestiynau i'r cyhoedd.

Byddwch yn rhoi cyfres o gwestiynau i ni rydych am eu gofyn i'r boblogaeth, a byddwn ni'n gwneud y gweddill: cynllunio a phrofi'r holiadur, ymgymryd â'r gwaith casglu data, glanhau'r data, a chyflwyno set ddata i chi y gellir ei defnyddio i ddadansoddi data. Rydym yn cynnig casgliad dull cymysg ar gyfer yr Arolwg Barn a Ffordd o Fyw, sy'n golygu y gwahoddir ymatebwyr i gymryd rhan drwy holiadur hunangwblhau ar-lein. Fel arall, os bydd angen, bydd un o'n cyfwelwyr medrus iawn yn cynnal y cyfweliad dros y ffôn. Gallwn gasglu data o ansawdd uchel o amrywiaeth eang o fathau o gwestiynau a phynciau.

Rydym yn cynnig

  • maint sampl ar gyfartaledd o 1,100 y mis, o bobl 16 oed a throsodd sy'n byw mewn cartrefi preifat ym Mhrydain Fawr

  • polisi codi tâl clir a thryloyw

  • hyblygrwydd llwyr - o 1 i 40 o gwestiynau fesul modiwl

  • detholiad eang o newidynnau dosbarthiadol (dadansoddiadau data), gan gynnwys nodweddion daearyddol, cymdeithasol a chyflogaeth

  • cyngor arbenigol am ddim i sicrhau eich bod yn dylunio ac yn dadansoddi eich cwestiynau yn y ffordd orau posibl

  • casglu data yn fisol am 8 allan o 12 mis (Ionawr, Chwefror, Ebrill, Mai, Gorffennaf, Awst, Hydref a Thachwedd)

Byddwch yn cael

  • set ddata ddienw ar lefel ymatebydd gan gynnwys newidynnau dosbarthiadol ar gyfer pob ymatebydd

  • adroddiad arolwg ar lefel uchel yn cynnwys gwybodaeth dechnegol, cyfraddau ymateb a chyfrifiadau amlder, a dogfennaeth holiadur yn dangos y llwybrau a'r testun ar gyfer y cleient a'r newidynnau dosbarthiadol

  • ffeil Excel yn dangos camgymeriadau samplu a newidynnau dosbarthiadol

Defnyddio'r arolwg

Mae ein methodoleg yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym yn llunio nifer o gyhoeddiadau o'r arolwg a ddynodir yn Ystadegau Gwladol. Mae hyn yn ein gwneud yn wahanol i ddulliau samplu omnibws mewn lleoliadau ar hap sy'n seiliedig ar gwota.

Mae gennym hanes sicr o feithrin dealltwriaeth ar gyfer gwaith datblygu, monitro a gwerthuso yn seiliedig ar dystiolaeth yn y meysydd canlynol:

  • addysg

  • iechyd

  • economi a threthiant

  • trafnidiaeth

  • diogelwch bwyd

  • gwyddoniaeth a thechnoleg

  • symudedd cymdeithasol

  • cyfiawnder cymdeithasol a throseddol

Beth alla i ei ofyn?

Mae gennym le ar gyfer 30 munud o gwestiynau cleient ar gyfer pob mis mae'r arolwg yn rhedeg. Gall eich cwestiynau gwmpasu bron pob pwnc a gallant fod yn seiliedig ar farn neu ar ffeithiau. Mae'r gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer:

  • pennu'r lefel o gefnogaeth i bolisi

  • gwerthuso effeithiolrwydd ymgyrchoedd ymwybyddiaeth

  • nodi agweddau cymdeithasol a gwleidyddol

  • nodi amlygrwydd ymddygiadau penodol

  • gwerthuso lefelau boddhad â gwasanaeth

  • mesur lefelau defnyddio nwyddau neu wasanaethau

  • profi neu dreialu cwestiynau cyn iddynt gael eu defnyddio mewn arolygon ar raddfa fwy

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg Barn a Ffordd o Fyw, gweler y canllaw methodoleg a'r adroddiad gwybodaeth ar ansawdd a methodoleg. Mae'r erthygl Opinions and Lifestyle Survey: mixed mode pilot analysis yn cyflwyno trosolwg o'r rhaglen gynhwysfawr o ymchwil a phrofi sydd wedi cael ei chynnal i lywio'r gwaith o drawsnewid yr arolwg