1. Cyflwyniad

Mae'r Arolwg o Asedau Cartrefi yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth am y ffordd y mae cartrefi ym Mhrydain Fawr yn ymdopi'n economaidd. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar asedau a dyledion cartrefi, eu benthyciadau a'u cynilion, a'u cynlluniau ar gyfer ymddeol.

Caiff y canlyniadau eu defnyddio i lywio polisïau'r llywodraeth ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys darpariaeth pensiwn. Astudiaeth hydredol yw'r Arolwg o Asedau Cartrefi, sy'n golygu y caiff ymatebwyr fwy nag un cyfweliad, gyda thua dwy flynedd rhwng pob un yn yr achos hwn.

Os ydych yn cymryd rhan yn yr astudiaeth a bod eich manylion cyswllt yn newid yn ystod y cyfnod hwn, e-bostiwch has.contacts@ons.gov.uk gan nodi:

  • eich enw
  • eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd
  • rhif ffôn cyswllt
  • enwau ac oedrannau aelodau eraill o'r cartref sydd wedi symud gyda chi i'r cyfeiriad newydd hwn
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?

Mae'r angen am well gwybodaeth am gyfoeth unigolion a chyfoeth cartrefi (asedau a dyledion) wedi cael ei gydnabod fwyfwy gan adrannau'r llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Arolwg o Asedau Cartrefi yn casglu'r wybodaeth hon, gan lunio ystadegau swyddogol am faterion sy'n effeithio ar bawb, fel lefelau cynilo a benthyca, sut mae pobl yn cynilo ar gyfer eu hymddeoliad, sut y dosberthir cyfoeth rhwng mathau gwahanol o gartrefi, a ffactorau sy'n effeithio ar y gwaith o gynllunio sefyllfa ariannol cartrefi. Drwy gynnal mwy nag un cyfweliad â'r un bobl (gyda dwy flynedd rhyngddynt), gellir cadw golwg ar newidiadau dros amser. Nid yw'r un arolwg swyddogol arall yn casglu'r wybodaeth hon.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon. Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi dethol â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o statws ariannol cartrefi'r genedl. Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn y Deyrnas Unedig heddiw a bydd yn helpu i ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom, fel polisïau ar bensiynau a chynilion.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Mae'r adran hon yn disgrifio'r broses y byddai ein hastudiaeth yn ei dilyn fel arfer. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn eich cadw chi a'n cydweithwyr yn ddiogel.

Darllenwch fwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud yn ein datganiad.

Bydd cyfwelydd yn trefnu amser addas i ymweld â chi er mwyn cynnal y cyfweliad. Caiff yr holl ddata holiadur eu casglu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio holiaduron gyda chymorth cyfrifiaduron. Mae'r holiadur yn cynnwys dwy ran. Cyfweliad byr â phrif ddeiliad y cartref neu ei bartner yw'r rhan gyntaf. Cyfweliad unigol a gynhelir â phob aelod o'r cartref sy'n oedolyn (16 oed a throsodd) yw'r ail ran fel arfer, ond nid yw hynny'n cynnwys pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sydd mewn addysg uwch amser llawn.

Yn ystod y cyfweliad, bydd y cyfwelydd yn casglu gwybodaeth lawn am amgylchiadau'r cartref cyfan ac yn gofyn cwestiynau am amrywiaeth o bynciau. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall y cwestiynau hyn ymwneud â'r ffordd y mae eich cartref yn ymdopi'n ariannol a'ch cynilion, eich buddsoddiadau a'ch darpariaeth ar gyfer ymddeol, er enghraifft.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Mae adrannau'r llywodraeth yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth i nodi sut a ble y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus. Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y llywodraeth. Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad a gynhelir bob deng mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth ac ymfudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.

Cynhelir yr astudiaeth mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o adrannau eraill y llywodraeth gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Trysorlys Ei Mawrhydi, Llywodraeth yr Alban, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a'r Tasglu Allgáu Cymdeithasol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. A fyddaf yn cael fy nhalu am gymryd rhan?

Er mwyn adlewyrchu pa mor bwysig yw eich cymorth i ni, anfonir taleb anrheg at bob person a gaiff ei gyfweld, bob tro y bydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Ydy, mae deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Dewisir sampl o gartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Ar ôl i gartref gael ei ddewis, ni ellir dewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r sampl. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth hon o ran sicrhau bod pob grŵp yn cael ei gynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar +44 (0)800 298 5313 neu e-bostiwch ni yn has.contacts@ons.gov.uk. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:

O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Anfon eich anrheg diolch. Ein darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyn yw Love2shop a Sodexo.

  • Ein helpu ni i gysylltu. Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Total Mobile.

Nôl i'r tabl cynnwys