Yn yr adran hon

  • Rydym yn canolbwyntio ar fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer Treth ar Werth (TAW) neu Dalu Wrth Ennill (TWE), a golyga hyn fod rhai busnesau bach iawn nad ydynt yn cael eu cynnwys. Rydym yn cyhoeddi nifer y busnesau yn y DU, ynghyd â dadansoddiadau rhanbarthol. Mae maint busnes yn seiliedig ar gyflogaeth a throsiant. Mae gweithgareddau busnesau yn nodi'r math o ddiwydiant.

  • Rydym yn edrych ar sut mae busnesau'r DU yn tyfu, yn goroesi ac yn newid dros amser. Mae'r ffigurau hyn yn fodd anffurfiol o ddangos hyder yn economi'r DU.

  • Rydym yn edrych ar fusnesau sy'n rhan o'r broses o adeiladu adeiladau newydd, ac o drwsio neu newid adeiladau sydd eisoes yn bodoli. Mae cwmnïau peirianneg sifil wedi eu cynnwys hefyd. Caiff allgynnyrch y diwydiant ei ddiffinio fel y swm a godir gan gwmnïau adeiladu ar gyfer gwerth y gwaith a gynhyrchwyd o fewn cyfnod penodol. Ymhlith defnyddwyr data'r diwydiant mae'r llywodraeth ganolog, Eurostat a dadansoddwyr yn y diwydiant.

  • Rydym yn edrych ar werth a chanran y gwerthiannau gan fusnesau dros y rhyngrwyd. Rydym hefyd yn mesur canran y busnesau sydd â gwefan a chysylltiad band eang. Mae'r ffigurau hyn yn ein galluogi i weld pa mor bwysig yw'r rhyngrwyd i fusnesau'r DU.

  • Gweithgynhyrchu yw'r diwydiant mwyaf yn y sector cynhyrchu. Mae'r sector hwn yn cynnwys mwyngloddio a chwarela, cyflenwi ynni a chyflenwi dŵr, a diwydiannau rheoli gwastraff. Gwneir defnydd helaeth o'r ystadegau hyn yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, yn enwedig gan Fanc Lloegr, Trysorlys y DU a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, er mwyn helpu i lunio polisïau a gwneud penderfyniadau.

  • Caiff busnesau sy'n gwerthu nwyddau'n uniongyrchol i'r cwsmeriaid sy'n eu defnyddio eu diffinio fel manwerthwyr. Yr ystadegyn allweddol ar gyfer manwerthu yw'r Mynegai Gwerthiannau Manwerthu (RSI), a gyhoeddir yn fisol. Mae data yn y RSI yn ymdrin â gwariant ar nwyddau yn unig (mewn siopau ac ar-lein). Mae data am wario ar wasanaethau ar gael ym Mynegai Gwasanaethau (IoS).

  • Rydym yn edrych ar ddata o'r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys gwasanaethau llety, gwasanaethau bwyd a diod, gwasanaethau cludo teithwyr, llogi cerbydau, asiantau teithio a chwaraeon, gwasanaethau hamdden a chynadleddau. Rydym hefyd yn archwilio lefelau cyflogaeth ac allgynnyrch y diwydiant twristiaeth, nifer yr ymwelwyr i'r DU, a faint o arian maent yn ei wario.