Yn yr adran hon

  • Mae dadansoddi heneiddio yn adeiladu ar amcangyfrifon ynglŷn â disgwyliad oes a'r boblogaeth, gan grynhoi'r dadansoddiad diweddaraf o'r ystadegau swyddogol ar heneiddio ymysg y boblogaeth, a bywydau pobl hŷn. Maent hefyd yn rhoi dangosyddion heneiddio megis oedran canolrifol a chymarebau rhyw ymysg oedrannau hŷn ar lefelau cenedlaethol a lleol.

  • Rydym yn edrych ar gyfanswm y beichiogiadau, wedi eu dadansoddi yn ôl oedran, yn ogystal â maint cyfartalog teuluoedd cyflawn, a nifer y bobl sy'n ddi-blant.

  • Rydym yn derbyn data am farwolaethau o'r gofrestr marwolaethau, felly dim ond data am farwolaethau cofrestredig sydd ar gael. Caiff y wybodaeth hon ei dadansoddi yn ôl oedran, rhyw, ardaloedd yn y DU, a'r achos marwolaethau. Mae rhai o'r setiau data ar gael ar ffurf cyfres hirdymor.

  • Rydym yn llunio adroddiadau am ystadegau ysgariadau yn ôl oedran a rhyw y bobl sy'n ysgaru, yn ôl pwy gafodd ysgariad, ac yn ôl ardaloedd yn y DU.

  • Ffigurau am gyfansoddiad aelwydydd, gan gynnwys data ar rieni unigol, cyplau priod, a phartneriaid sifil.

  • Rydym yn defnyddio amcangyfrifon o'r boblogaeth a nifer y marwolaethau i amcangyfrif pa mor hir, ar gyfartaledd, gall pobl ddisgwyl byw. Mae llywodraethau canolog a lleol yn defnyddio'r ffigurau hyn i wneud penderfyniadau ynglŷn â chynllunio a dyrannu adnoddau.

  • Mae nifer y genedigaethau byw yn is-set o'r data rydym yn ei gasglu o gofrestriadau genedigaethau a marwolaethau. Maent ar gael yn ôl rhyw, mis y flwyddyn a rhanbarth o'r DU.

  • Rydym yn edrych ar briodi, cyd-fyw a phartneriaethau sifil.

  • Data am farw-enedigaethau, wedi'i ddadansoddi yn ôl rhanbarth.