Nifer y cartrefi gwag ac ail gartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Dadansoddiad o anheddau heb eu meddiannu wedi'u rhannu'n anheddau sy'n wirioneddol wag ac ail gartrefi (heb unrhyw breswylwyr arferol) a luniwyd o ddata'r cyfrifiad a ffynonellau data gweinyddol.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census

Cyswllt:
Email Nikki Bowers, Tony Wilkins

Dyddiad y datganiad:
27 October 2023

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Prif bwyntiau

  • O blith yr holl anheddau, amcangyfrifwyd bod cyfradd eiddo gwag ychydig yn uwch yng Nghymru (7.0%) o gymharu â Lloegr (5.4%); roedd gan Gymru ganran uwch o ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol hefyd (1.2%) o gymharu â Lloegr (0.6%).

  • De-orllewin Lloegr oedd â'r ganran uchaf o anheddau a oedd yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol (1.3% o'r holl anheddau); gyda Chymru'n ail agos ag 1.2%.

  • Yn 2021, amcangyfrifwn mai 85.4% o anheddau heb eu meddiannu yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad oedd yn wirioneddol wag, a bod 14.6% yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

  • Yn 2021, amcangyfrifwn mai 89.7% o anheddau heb eu meddiannu yn Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad oedd yn wirioneddol wag, a bod 10.3% yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

  • Roedd ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol yn fwy tebygol o fod yn dai neu'n fyngalos ar wahân yng Nghymru (32.4% o ail gartrefi) ac yn fflatiau neu'n maisonettes yn Lloegr (36.7%).

  • Fflatiau neu maisonettes oedd y math mwyaf cyffredin o gartref ymhlith anheddau gwirioneddol wag yng Nghymru ac yn Lloegr (26.8% a 45.3% o anheddau gwirioneddol wag, yn y drefn honno).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Anheddau heb eu meddiannu

Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd 120,450 o anheddau heb eu meddiannu yng Nghymru ac 1.5 miliwn yn Lloegr. Mae hyn yn gyfystyr ag 8.2% o'r holl anheddau yng Nghymru a 6.1% yn Lloegr.

Unedau llety heb unrhyw breswylwyr arferol yw anheddau heb eu meddiannu. Gall rhai gael eu defnyddio gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr fel ail gartrefi, tra bo rhai eraill yn wirioneddol wag, hynny yw, nid oes unrhyw awgrym eu bod yn cael eu defnyddio fel ail gartref ac nid oes preswylwyr byrdymor yn preswylio ynddynt.

Mae amcangyfrifon yn y datganiad hwn yn cyfuno gwybodaeth o ddata'r cyfrifiad a ffynonellau data gweinyddol er mwyn rhannu anheddau heb eu meddiannu yn anheddau sy'n wirioneddol wag ac ail gartrefi (heb unrhyw breswylwyr arferol), rhywbeth sy'n anodd ei bennu gan ddefnyddio data'r cyfrifiad yn unig.

Roedd 120,450 o anheddau heb eu meddiannu yng Nghymru yn 2021, yr oedd 85.4% ohonynt yn wirioneddol wag ac 14.6% yn ail gartrefi. O blith y 1,507,100 o anheddau heb eu meddiannu yn Lloegr yn 2021, amcangyfrifir bod 89.7% yn wirioneddol wag a bod 10.3% yn ail gartrefi.

Ledled Cymru a holl ranbarthau Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd â'r ganran uchaf o anheddau heb eu meddiannu a oedd yn wirioneddol wag (95.4%), er mai'r rhanbarth hwn oedd â'r ganran isaf o anheddau heb eu meddiannu yn gyffredinol (4.8% o'r holl anheddau). De-orllewin Lloegr oedd â'r ganran uchaf o anheddau heb eu meddiannu a oedd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi (18.1%). Llundain oedd â'r ganran uchaf o anheddau heb eu meddiannu (8.0% o'r holl anheddau) o blith holl ranbarthau Lloegr; roedd 91.6% o'r rhain yn wag ac roedd 8.4% yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Ffigur 2: Canran yr anheddau heb eu meddiannu, sy'n wirioneddol wag, ac ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, Cymru a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Wrth edrych ar ganran yr anheddau sy'n wirioneddol wag o blith yr holl anheddau, amcangyfrifwyd bod gan Gymru ganran ychydig yn uwch (7.0%) o gymharu â Lloegr (5.4%). Amcangyfrifwyd bod gan Gymru ganran uwch o anheddau a oedd yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol hefyd (1.2% o gymharu â 0.6% yn Lloegr).

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Ail gyfeiriadau ac Ail gartrefi

Ail gyfeiriadau

Gwnaethom gyhoeddi datganiad Ail gyfeiriadau yn ôl lleoliad a math: Cyfrifiad 2021 yn flaenorol sy'n darparu data'r cyfrifiad ar ail gyfeiriadau ar gyfer ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn aros mewn cyfeiriad arall am 30 diwrnod y flwyddyn neu fwy. Roedd y data'n cynnwys ail gyfeiriadau oedd â phreswylwyr arferol yn byw yno, er enghraifft, cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall, yn ogystal â'r rheini heb unrhyw breswylwyr arferol. Roedd 99,610 o anheddau yn cael eu defnyddio fel ail gyfeiriadau yng Nghymru ac 1,627,450 o anheddau yn cael eu defnyddio fel ail gyfeiriadau yn Lloegr.

Ail gartrefi

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ail gartrefi yng Nghymru a Lloegr heb unrhyw breswylwyr arferol ac mae'n deillio o gyfuniad o ddata'r cyfrifiad a data gweinyddol (gweler Ffigur 1). Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu'r holl ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, ni waeth am ba hyd y mae unigolion yn aros yno bob blwyddyn na ble mae eu preswylfa arferol (hynny yw, mae'n cwmpasu preswylwyr nad ydynt yn dod o'r Deyrnas Unedig). Gweler Adran 8: Cryfderau a chyfyngiadau i gael gwybodaeth am sut mae'r data hyn ar ail gartrefi yn cymharu â'r datganiad Ail gyfeiriadau yn ôl lleoliad a math: Cyfrifiad 2021.

Yn 2021, amcangyfrifwyd bod 172,545 o anheddau yng Nghymru a Lloegr a oedd yn ail gartrefi heb breswylwyr arferol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, (17,575 yng Nghymru, 154,970 yn Lloegr). Dyma nifer yr ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, er enghraifft, cartrefi gwyliau, llety gosod tymor byr, neu gyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o'r cartref.

Yn Lloegr, y De-orllewin oedd â'r ganran uchaf o ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol (1.3%) o blith holl ranbarthau Lloegr, gyda Chymru'n ail agos (1.2%). Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr y gwelwyd y ganran isaf (0.2%). Yn Llundain, ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol oedd 0.7% o'r holl anheddau. Canfu data'r cyfrifiad ar ail gyfeiriadau preswylwyr arferol ganran uwch o ail gyfeiriadau a gaiff eu defnyddio fel “cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref” yn Llundain nag mewn unrhyw ranbarth arall yn Lloegr na Chymru (10% o'r holl fathau o ail gyfeiriad).

Ffigur 3: Canran yr holl anheddau sy'n ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, Cymru a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Rydym yn amcangyfrif bod canran yr holl anheddau a oedd yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol yn amrywio o 7.7% yn Ynysoedd Scilly yn Ne-orllewin Lloegr i 0.04% yn Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Roedd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol lai na 5% o anheddau a oedd yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol. Roedd yr eithriadau:

  • yn Ne-orllewin Lloegr, Ynysoedd Scilly a South Hams, gyda 7.7% a 6.0% o'r holl anheddau, yn y drefn honno

  • yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lindsey, lle roedd 7.4% o'r holl anheddau yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol

  • yn Llundain, Dinas Llundain a Kensington a Chelsea, gyda 6.8% a 6.0% o'r holl anheddau, yn y drefn honno

  • yn Swydd Efrog a Humber, Dwyrain Riding Swydd Efrog, lle roedd 6.3% o'r holl anheddau yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol

  • yng Nghymru, Gwynedd, lle roedd 6.1% o'r holl anheddau yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol

  • yn Nwyrain Lloegr, Gogledd Norfolk, lle roedd 5.8% o'r holl anheddau yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol

Kensington a Chelsea oedd yr awdurdod lleol lleiaf fforddiadwy yng Nghymru a Lloegr yn 2021, ond hwn oedd â'r chweched canran uchaf o ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Ffigur 4: Canran yr holl anheddau sy'n ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, ac anheddau gwag, awdurdodau lleol, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Ail gartrefi yn ôl y math o gartref

Daw data am y math o gartref o ddata'r cyfrifiad er mwyn rhoi amcangyfrif o ail gartrefi ac anheddau gwirioneddol wag yn ôl y math o gartref.

Amcangyfrifwyd mai fflatiau neu maisonettes oedd y math mwyaf cyffredin o gartref ar gyfer ail gartrefi yn Lloegr, sef 36.7% o ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol. Yng Nghymru, roedd ail gartrefi yn fwyaf tebygol o fod yn dai neu'n fyngalos ar wahân (32.4% o ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol).

Tai neu fyngalos semi oedd y math mwyaf cyffredin o gartref yng Nghymru ac yn Lloegr yn gyffredinol (30.9% a 30.6% o'r holl anheddau, yn y drefn honno). Fodd bynnag, hwn oedd y math lleiaf cyffredin o gartref wrth edrych ar y dosbarthiad o ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol (12.6% yng Nghymru a 10.7% yn Lloegr).

Ffigur 5: Dosbarthiad yr holl anheddau ac ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, yn ôl y math o gartref, gwlad, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Wrth edrych ar ganran yr holl anheddau o fewn math o gartref a oedd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi, carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro oedd â'r ganran uchaf yng Nghymru (27.6%) ac yn Lloegr (16.5%).

Swydd Efrog a Humber oedd â'r ganran uchaf o garafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro a oedd heb eu meddiannu (71.7%). O blith yr holl garafannau, roedd 50.9% yn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, sef mwy na dwbl y ganran a welwyd mewn unrhyw ranbarth arall yn Lloegr. Mae hyn yn golygu mai 20.8% o'r math hwn o gartref oedd yn wirioneddol wag yn Swydd Efrog a Humber.

Ffigur 6: Canran yr holl garafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro a ddefnyddiwyd fel ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, Cymru a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Ar gyfer mathau eraill o gartref:

  • o blith yr holl dai neu fyngalos ar wahân, yng Nghymru roedd 1.4% yn ail gartrefi ac yn Lloegr roedd 0.5% yn ail gartrefi

  • o blith yr holl dai neu fyngalos semi, yng Nghymru roedd 0.5% yn ail gartrefi ac yn Lloegr roedd 0.2% yn ail gartrefi

  • o blith yr holl dai neu fyngalos mewn teras, yng Nghymru roedd 0.8% yn ail gartrefi ac yn Lloegr roedd 0.5% yn ail gartrefi

  • o blith yr holl fflatiau neu maisonettes, yng Nghymru roedd 1.5% yn ail gartrefi ac yn Lloegr roedd 1.0% yn ail gartrefi

Ail gartrefi yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely

Daw data am nifer yr ystafelloedd gwely o ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio am nodweddion eiddo, er mwyn rhoi amcangyfrif o ail gartrefi ac anheddau gwirioneddol wag yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely. Fodd bynnag, ni allem bennu sawl ystafell wely oedd mewn 25.1% o ail gartrefi yng Nghymru a 23.5% yn Lloegr, oherwydd y data a oedd ar gael, felly mae categori “Ar goll” wedi cael ei gynnwys yn y dadansoddiad hwn.

Dwy yw'r nifer mwyaf cyffredin o ystafelloedd gwely mewn ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, a hynny ar gyfer Cymru a Lloegr (31.4% o ail gartrefi yng Nghymru a 31.5% yn Lloegr).

Anheddau â thair ystafell wely oedd fwyaf cyffredin yng Nghymru ac yn Lloegr (49.7% a 42.0% o'r holl anheddau, yn y drefn honno). Fodd bynnag, dim ond tu hanner hyn oedd canran yr anheddau â thair ystafell wely ymhlith ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol (26.0% yng Nghymru a 20.9% yn Lloegr).

Ffigur 7: Dosbarthiad yr holl anheddau ac ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol, yn ôl y nifer yr ystafelloedd gwely, gwlad, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Dwy ystafell wely oedd fwyaf cyffredin ymhlith ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol ar gyfer Cymru a holl ranbarthau Lloegr, gan amrywio o 39.5% o ail gartrefi yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 18.2% yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Roedd gan Lundain ganran uwch o ail gartrefi ag un ystafell wely (32.1%) na Chymru a rhanbarthau eraill Lloegr.

Ffigur 8: Canran yr ail gartrefi ac anheddau gwag, yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, Cymru a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Anheddau gwirioneddol wag

Amcangyfrifwyd bod 1,455,010 o anheddau yng Nghymru a Lloegr a oedd yn wirioneddol wag ar Ddiwrnod y Cyfrifiad 2021 (102,875 yng Nghymru ac 1,352,130 yn Lloegr), gan ddefnyddio data'r cyfrifiad a ffynonellau data gweinyddol. Mae hyn yn golygu nad oedd unrhyw breswylwyr arferol yn byw yn yr anheddau hyn ac nid oedd unrhyw awgrym bod y rhain yn cael eu defnyddio gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr.

Er mai Cymru oedd â'r ganran uchaf o anheddau heb eu meddiannu yn gyffredinol (8.2% o'r holl anheddau), amcangyfrifwyd bod gan Lundain ganran uwch o anheddau gwirioneddol wag (7.3%), o blith holl ranbarthau Lloegr a Chymru. Dwyrain Lloegr oedd â'r ganran isaf o anheddau gwirioneddol wag (4.3%) a'r ganran isaf ond un o anheddau heb eu meddiannu yn gyffredinol (4.9% o'r holl anheddau).

Gan fod Cyfrifiad 2021 wedi cael ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), gall rhai pobl, er enghraifft myfyrwyr tramor neu'r rhai a oedd yn rhentu'n breifat, fod wedi symud yn ôl i fyw gyda'u teulu gan arwain at fwy o anheddau heb eu meddiannu.

Ffigur 9: Canran yr holl anheddau sy'n wirioneddol wag, Cymru a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Roedd llai nag 1 o bob 10 annedd yn wirioneddol wag yn y mwyafrif o awdurdodau lleol (317 allan o 331 o awdurdodau lleol). O blith yr 14 o awdurdodau lleol oedd â chanran uwch na 10%, roedd pump yng Nghymru, pump yn Llundain, dau yng Ngogledd-orllewin Lloegr, ac un yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ac yn Ne-orllewin Lloegr.

Roedd canran yr anheddau gwirioneddol wag yn amrywio o 26.1% yn Ninas Llundain gyda'r ganran uchaf, i Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr gyda'r ganran isaf (2.3%). Gellir gweld map o awdurdodau lleol gyda chanran yr holl anheddau a oedd yn wirioneddol wag yn Ffigur 4.

Anheddau gwag yn ôl y math o gartref

Amcangyfrifwyd mai fflatiau neu maisonettes oedd y math mwyaf cyffredin o gartref ymhlith anheddau gwirioneddol wag yn Lloegr (45.3%). Mae hyn bron ddwywaith canran y fflatiau a'r maisonettes ymhlith yr holl anheddau yn Lloegr (23.5%). Er mai Llundain oedd â'r ganran uchaf o fflatiau neu maisonettes gwirioneddol wag, hwn oedd y math mwyaf cyffredin o gartref ar gyfer anheddau gwirioneddol wag yng ngweddill Lloegr hefyd, heb gynnwys Llundain (36.9%).

Roedd anheddau gwirioneddol wag yn fwyaf tebygol o fod yn fflatiau neu'n maisonettes yng Nghymru hefyd (26.8%), gyda thai neu fyngalos mewn teras yn ail agos (26.4%). Er bod y canrannau hyn yn debyg, wrth edrych ar ganran pob math o gartref yn gyffredinol a oedd yn wirioneddol wag yng Nghymru, roedd bron dwbl ar gyfer fflatiau neu maisonettes (13.9%) o gymharu â thai neu fyngalos mewn teras (7.0%).

Ffigur 10: Dosbarthiad yr holl anheddau ac anheddau gwirioneddol wag yn ôl y math o gartref, yn ôl gwlad, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Wrth edrych ar ganran yr anheddau o fewn pob math o gartref a oedd yn wirioneddol wag, carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro oedd â'r ganran uchaf a oedd yn wirioneddol wag yng Nghymru ac yn Lloegr. Yng Nghymru, roedd 38.3% o'r holl garafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro yn wirioneddol wag, ac yn Lloegr, roedd 24.1% yn wirioneddol wag. Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, roedd llawer o feysydd carafannau ar gau oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), felly mae'n bosibl bod ymatebwyr a oedd yn byw mewn meysydd o'r fath fel arfer yn byw yn rhywle arall. Gallai ymatebwyr ymateb o hyd i ddweud eu bod yn byw yn y maes carafannau fel arfer.

Ar gyfer mathau eraill o gartref:

  • o blith yr holl fflatiau neu maisonettes, yng Nghymru roedd 13.9% yn wirioneddol wag ac yn Lloegr roedd 10.4% yn wirioneddol wag

  • o blith yr holl dai neu fyngalos ar wahân, yng Nghymru roedd 5.8% yn wirioneddol wag ac yn Lloegr roedd 3.5% yn wirioneddol wag

  • o blith yr holl dai neu fyngalos semi, yng Nghymru roedd 4.2% yn wirioneddol wag ac yn Lloegr roedd 2.9% yn wirioneddol wag

  • o blith yr holl dai neu fyngalos mewn teras, yng Nghymru roedd 7.0% yn wirioneddol wag ac yn Lloegr roedd 4.9% yn wirioneddol wag

Anheddau gwag yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely

Yn Lloegr, roedd gan 30.3% o anheddau gwirioneddol wag ddwy ystafell wely, sy'n golygu mai hwn yw'r nifer mwyaf cyffredin o ystafelloedd gwely ar gyfer anheddau gwirioneddol wag. Wrth edrych ar ddosbarthiad nifer yr ystafelloedd gwely yn yr holl anheddau, tair ystafell wely oedd fwyaf cyffredin (42.0% o'r holl anheddau).

Yng Nghymru, roedd canran uwch o anheddau gwirioneddol wag oedd â thair ystafell wely (33.5%). Anheddau â thair ystafell wely oedd fwyaf cyffredin ar gyfer yr holl anheddau yng Nghymru hefyd (49.7%),ond roedd y ganran yn is ar gyfer anheddau gwirioneddol wag.

Ni allem bennu sawl ystafell wely oedd mewn 18.3% o anheddau gwirioneddol wag yng Nghymru ac 14.9% yn Lloegr, oherwydd y data a oedd ar gael.

Ffigur 11: Dosbarthiad yr holl anheddau ac anheddau gwirioneddol wag, yn ôl y nifer yr ystafelloedd gwely, yn ôl gwlad, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

O blith rhanbarthau Lloegr a Chymru:

  • Llundain oedd yr unig ardal â'r ganran uchaf o anheddau gwirioneddol wag ag un ystafell wely (33.5% o anheddau gwirioneddol wag); gall hyn fod oherwydd bod cyfran uwch o gartrefi ag un ystafell wely yn Llundain

  • dwy ystafell wely oedd y nifer mwyaf cyffredin o ystafelloedd gwely mewn anheddau gwirioneddol wag yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a Humber, Dwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr

  • tair ystafell wely oedd y nifer mwyaf cyffredin o ystafelloedd gwely mewn anheddau gwirioneddol wag yng Nghymru, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr

Mae Ffigur 8 yn dangos canran yr anheddau gwirioneddol wag yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely ar gyfer Cymru a holl ranbarthau Lloegr, ochr yn ochr â data ar ail gartrefi.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Nifer y cartrefi gwag ac ail gartrefi, Cymru a Lloegr: Data Cyfrifiad 2021

Nifer y cartrefi gwag ac ail gartrefi, Cymru a Lloegr
Set ddata | Rhyddhawyd ar 27 Hydref 2023
Nifer yr anheddau gwag ac ail gartrefi, yn ôl y math o gartref a nifer yr ystafelloedd gwely, ar gyfer anheddau heb eu meddiannu, Cymru a Lloegr, Cyfrifiad 2021. Mae data ar gael ar lefel genedlaethol, gwlad, rhanbarth, ardal awdurdod lleol, Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol ac Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, lle y bo'n bosibl.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Geirfa

Math o gartref

Y math o adeilad neu gartref a gaiff ei ddefnyddio neu sydd ar gael i'w ddefnyddio gan un lle cartref neu fwy.

Gallai hyn gynnwys:

  • tŷ neu fyngalo cyfan

  • fflat neu maisonette

  • cartref symudol neu dros dro, fel carafán

Tŷ neu fyngalo cyfan

Nid yw'r math hwn o eiddo wedi'i rannu yn fflatiau nac yn fan arall lle mae rhywun yn byw. Mae tri math o dŷ neu fyngalo cyfan.

  • ar wahân - nid oes unrhyw ran o'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth eiddo arall ond gall fod ynghlwm wrth garej

  • semi - mae'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth dŷ neu fyngalo arall ac yn rhannu wal gyffredin

  • mewn teras - mae tŷ yng nghanol teras rhwng dau dŷ arall ac yn rhannu dwy wal gyffredin; mae tŷ ar ben teras yn rhan o ddatblygiad teras ond dim ond un wal gyffredin a rennir

Fflatiau a maisonettes

Fflat â dau lawr yw maisonette.

Annedd

Uned hunangynhwysol o lety a all fod yn wag neu y mae rhywun yn byw ynddi, er enghraifft tai neu fflatiau, yw annedd. Mae fel arfer yn cynnwys un cartref, ond caiff y rheini sy'n cynnwys mwy nag un cartref eu rhannu ac fe'u gelwir yn “annedd sy'n cael ei rhannu”.

Os nad oes preswylwyr arferol yn byw mewn annedd, er enghraifft mae'n wag ers cael ei gwerthu, caiff ei galw yn “annedd heb ei meddiannu” ond gellir ei defnyddio gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, er enghraifft, fel cartref gwyliau.

Nifer yr ystafelloedd gwely

Nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael i'w defnyddio mewn cartref.

Ail gyfeiriad

Cyfeiriad (yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi) y mae rhywun yn aros ynddo am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn nad yw'n breswylfa arferol iddo.

Fel arfer mae ail gyfeiriadau yn cynnwys:

  • canolfannau'r lluoedd arfog

  • cyfeiriadau a ddefnyddir gan bobl sy'n gweithio i ffwrdd o’r cartref

  • cyfeiriad cartref myfyriwr

  • cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall

  • cyfeiriad partner

  • cartref gwyliau

Os oedd person ag ail gyfeiriad yn aros yno ar noson y cyfrifiad, roedd yn cael ei ddosbarthu'n ymwelydd â'r ail gyfeiriad ond yn cael ei gyfrif fel preswylydd arferol yn ei gyfeiriad cartref.

Ail gartref

Caiff ail gartref yn y cyd-destun hwn ei ddiffinio fel uned o lety heb unrhyw breswylwyr arferol, sydd naill ai:

  • wedi cael ei gadarnhau fel ail gyfeiriad un o ymatebwyr y cyfrifiad lle mae rhywun yn aros am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn nad yw'n fan preswylio arferol iddo

  • wedi cael ei nodi fel “ail gartref” gan ei berchennog drwy ymatebion i'r cyfrifiad

  • â gwybodaeth o ffynonellau data gweinyddol sy'n awgrymu ei fod yn debygol o fod yn ail gartref, fel premiymau'r dreth gyngor.

Preswylwyr byrdymor

Mae preswylydd byrdymor o'r Deyrnas Unedig at ddibenion y cyfrifiad yn cynnwys unrhyw un a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig a oedd, ar 21 Mawrth 2021, wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o dri mis neu fwy ond llai na 12 mis.

Annedd heb ei meddiannu

Mae annedd heb ei meddiannu yn cyfeirio at uned o lety heb unrhyw breswylwyr arferol, er y gall gael ei defnyddio gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gall anheddau o'r fath gael eu cofnodi fel un o'r canlynol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021:

  • ail breswylfa, tŷ gwyliau neu gartref gwag yn unig

  • wedi'u meddiannu gan breswylwyr byrdymor neu ymwelwyr yn unig

Preswylydd arferol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Annedd wag

Nid yw annedd sy'n wirioneddol wag wedi'i meddiannu ar Ddiwrnod y Cyfrifiad ac nid oes ganddi unrhyw breswylwyr arferol, nid oes unrhyw awgrym ei bod yn cael ei defnyddio fel ail gartref ac nid oes preswylwyr byrdymor yn preswylio ynddi

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Cynhyrchu amcangyfrifon o gartrefi gwag ac ail gartrefi

Mae data'r cyfrifiad yn darparu nifer yr anheddau heb eu meddiannu yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Mae'n anodd cynhyrchu dadansoddiad o anheddau heb eu meddiannu sy'n wirioneddol wag neu'n cael eu defnyddio fel ail gartrefi gan ddefnyddio data'r cyfrifiad yn unig. Mae ystadegau yn y datganiad hwn yn cyfuno gwybodaeth o ddata'r cyfrifiad a ffynonellau data gweinyddol er mwyn darparu'r dadansoddiad hwn, drwy'r camau hierarchaidd canlynol.

1. Mae anheddau nad oeddent wedi'u meddiannu ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn rhoi rhestr o Rifau Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) y gallwn seilio ein data arni.

2. Os nododd un o ymatebwyr y cyfrifiad (preswylydd arferol yng Nghymru a Lloegr) ei fod yn aros mewn cyfeiriad heb ei feddiannu sydd wedi'i restru gennym am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn ac nad dyma yw ei fan preswylio arferol, caiff ei nodi'n ail gartref. Mae'r cyfrifiad yn casglu data am y mathau canlynol o ail gyfeiriadau:

  • cartref gwyliau

  • cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref

  • cyfeiriad un o ganolfannau’r lluoedd arfog

  • cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor

  • cyfeiriad cartref myfyriwr

  • cyfeiriad cartref rhiant neu warcheidwad arall

  • cyfeiriad partner

O blith y rhain, bydd preswylwyr arferol yn aros yn y rhan fwyaf ohonynt felly ni fyddent yn cael eu cyfrif fel ail gartrefi yn y datganiad hwn, ond rydym yn debygol o gwmpasu cartrefi gwyliau a chyfeiriadau eraill wrth weithio i ffwrdd o'r cartref yn yr ail gyfeiriadau hyn.

3. Cafwyd ymateb i'r cyfrifiad yn nodi bod annedd yn wirioneddol wag

4. Wrth gasglu data'r cyfrifiad, darparodd rhai cymdeithasau tai restr o'u holl eiddo gwag a wnaeth ein galluogi i gofnodi bod yr anheddau hyn yn wirioneddol wag. Nid yw'r data yn cwmpasu pob cymdeithas dai, ond byddai rhai eraill wedi llenwi ymatebion ar gyfer pob annedd wag unigol.

5. Ar gyfer cartrefi na wnaethant ymateb, ymwelodd aelod o'r tîm maes â rhai cyfeiriadau. Os nododd swyddog maes eu bod yn “llety gwyliau” neu'n “ail breswylfa”, cawsant eu nodi fel ail gartref.

6. Lle dangosodd data Treth Gyngor fod gan gyfeiriad eithriad, disgownt neu god premiwm, defnyddiwyd y rhain i ddosbarthu anheddau yn “ail gartref” neu'n “wirioneddol wag”.

7. Pe bai data cyfleustodau (ElectraLink) yn awgrymu bod annedd heb ei meddiannu neu heb ynni (h.y. nid yw'r Cyflenwr o'r farn y dylai fod yn defnyddio trydan), cafodd ei dosbarthu'n wirioneddol wag.

8. Rhoddwyd gwerth “gwirioneddol wag” i anheddau a oedd yn weddill yr ymwelodd swyddog maes â nhw gan nodi eu bod yn “annedd wag”. Rhoddwyd y rheol hon olaf yn yr hierarchiaeth am ei bod yn anodd i swyddogion maes wahaniaethu rhwng aelodau o gartrefi a oedd yn absennol dros dro a rhai a oedd yn wirioneddol wag.

9. Ar gyfer anheddau heb eu meddiannu a oedd yn weddill nad oeddent yn bodloni amodau unrhyw un o'r rheolau, neilltuwyd gwerth gwirioneddol wag neu ail gartref iddynt drwy fodel atchweliad logistaidd binomaidd, gan gynnwys y newidynnau canlynol:

  • o'r cyfrifiad: ardal gynnyrch yr annedd, is-grŵp (e.e. byw mewn tref neu dref prifysgol), math o gartref

  • o ddata Treth Gyngor: math o eithriad, math o ddisgownt, math o bremiwm, baner a ddiweddarwyd yn ddiweddar

  • o ddata'r Gwasanaeth Demograffeg Personol (NHS Digital) – baner a ddiweddarwyd yn ddiweddar, nifer y bobl sy'n bresennol

  • o ddata'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau – math diweddaraf o gais, baner a ddiweddarwyd yn ddiweddar

  • o Gyfrifiad Ysgolion Lloegr (yr Adran Addysg) – nifer y preswylwyr. Dim ond ar gyfer Lloegr y mae'r data hyn ar gael, ni ddefnyddiwyd ffynhonnell gyfatebol ar gyfer Cymru.

Y ffynhonnell wybodaeth a ddefnyddiwyd i neilltuo a oedd annedd heb ei meddiannu yn wag neu'n ail gartref oedd:

  • ymateb i'r cyfrifiad – 47.8% yng Nghymru, 43.1% yn Lloegr

  • rhestrau eiddo gwag cymdeithasau tai – 0.6% yng Nghymru, 1.3% yn Lloegr

  • ymweliad swyddogion maes â chartrefi na wnaethant ymateb – 26.4% yng Nghymru, 30.0% yn Lloegr

  • data treth gyngor – 12.3% yng Nghymru, 9.6% yn Lloegr

  • data cyfleustodau – 2.5% yng Nghymru, 3.9% yn Lloegr

  • model atchweliad logistaidd binomaidd – 10.4% yng Nghymru, 12.1% yn Lloegr

Math o gartref

Mae data'r cyfrifiad yn darparu rhaniad math o gartref anheddau gwag ac ail gartrefi, ar lefel cyfeiriad. Mae'r math o gartref ar gael ar gyfer pob annedd heb ei meddiannu.

Nifer yr ystafelloedd gwely

Mae'r cyfrifiad yn casglu data ar nifer yr ystafelloedd gwely, ond dim ond ar gyfer cartrefi â phreswylwyr arferol y mae hyn ar gael. Er mwyn darparu'r dosbarthiad o anheddau gwag ac ail gartrefi yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, gwnaethom gysylltu data Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar nodweddion eiddo o fis Ebrill 2021 â data Cyfrifiad 2021 ar lefel cyfeiriadau (UPRN). Roedd nifer yr ystafelloedd gwely o ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gael ar gyfer 95.7% o'r holl anheddau a gofnodwyd yn y cyfrifiad ar gyfer Cymru a 96.5% ar gyfer Lloegr. Fflatiau neu maisonettes oedd leiaf tebygol o fod â data ar nifer yr ystafelloedd gwely (44.2% o anheddau â data coll).

Gwnaethom lwyddo i ychwanegu nifer yr ystafelloedd gwely yn ôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer 80.7% o anheddau heb eu meddiannu yng Nghymru ac 84.2% o anheddau heb eu meddiannu yn Lloegr. Mae hyn yn awgrymu bod data ar nifer yr ystafelloedd gwely gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fwy tebygol o fod ar goll ar gyfer anheddau heb eu meddiannu.

Ffynonellau data

Mae data'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni. Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), gwnaethom ein gorau glas i sicrhau bod Cyfrifiad 2021 yn cyfrif pawb. Gwnaethom ddefnyddio AddressBase Premium i sicrhau bod pob cartref yng Nghymru a Lloegr yn cael gwahoddiadau i gwblhau holiadur y cyfrifiad. Gwnaethom ategu hyn â ffynonellau data eraill yn nodi sefydliadau cymunedol, fel neuaddau preswyl a chartrefi gofal. Gwnaethom sicrhau bod data cyfeiriadau mor gywir â phosibl drwy weithio gyda GeoPlace i ddiweddaru ein ffrâm cyfeiriadau cyn Diwrnod y Cyfrifiad.

Caiff data Treth Gyngor eu casglu ar gyfer eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr ac mae'r SYG yn cael y data hyn gan bob awdurdod lleol unigol. Mae'r data yn nodi p'un a oes eithriadau, disgowntiau neu godau premiwm ar gyfer eiddo, sy'n ein galluogi i nodi a yw eiddo yn wag neu'n cael ei ddefnyddio fel ail gartref. Mae gan bob awdurdod lleol ei feini prawf ei hun ar gyfer eithriadau a disgowntiau. Roedd y data a ddefnyddiwyd ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill 2021 gyda'i gilydd, ond roedd ond yn cynnwys cofnodion gweithredol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.

Defnyddiwyd data ElectraLink, sy'n cwmpasu cartrefi lle mae contract trydan gweithredol, ar gyfer Cymru a Lloegr o fis Mai 2021 er mwyn pennu'r defnydd o drydan mewn annedd. Rhoddodd y cyfrifiad restr o godau post problemus i ElectraLink lle roedd yn anodd nodi anheddau gwag, a chafwyd data yn ôl ar gyfer cyfeiriadau oedd â mesurydd deallus, darlleniad diweddar a gymerwyd ers 1 Mawrth 2021 neu ddefnydd dyddiol cyfartalog o >=2kWh. Hefyd, cafwyd adroddiad yn cwmpasu pob cyfeiriad domestig gyda gwybodaeth am statws meddiannaeth tebygol y cyfeiriadau yn seiliedig ar weithgarwch cwsmeriaid neu lefelau defnydd. Byddai annedd yn cael ei nodi fel annedd wag os yw wedi bod heb ynni am fwy na 3 mis, roedd y rhagdaliad/taliad atodol fwy na 6 mis yn ôl neu roedd y blaenswm diweddaraf (yn cwmpasu'r cyfrifiad) islaw'r canradd 95ed canradd.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Cymharu â datganiadau eraill

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ddata'r cyfrifiad yn flaenorol a oedd yn ystyried lleoliad ail gyfeiriadau a gaiff eu defnyddio fel cartrefi gwyliau ledled Cymru a Lloegr, yn ogystal â faint o bobl sy'n eu defnyddio ac o ble y maent yn teithio.

Cyhoeddwyd data ar fathau o ail gyfeiriadau, gan ddadansoddi'r math o ail gyfeiriad a ddefnyddiwyd gan y rheini sy'n aros mewn cyfeiriad arall am 30 diwrnod y flwyddyn neu fwy.

Mae'r rhain yn dibynnu ar ymatebion i'r cyfrifiad yn unig lle cadarnhaodd preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr eu bod yn aros mewn cyfeiriad arall am 30 diwrnod y flwyddyn neu fwy.

Mae'r datganiad hwn yn wahanol i'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi'n flaenorol am ei fod:

  • yn canolbwyntio ar ail gartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol yn unig

  • yn cwmpasu ail gartrefi lle nad oes unrhyw un yn aros yn y cyfeiriad am 30 diwrnod y flwyddyn neu fwy, er enghraifft, llety gosod tymor byr

  • yn cwmpasu ail gartrefi yng Nghymru a Lloegr lle mai dim ond preswylwyr sy'n byw y tu allan i Gymru a Lloegr sy'n aros ynddynt.

Gall amcangyfrifon yn y datganiad hwn fod yn wahanol i ffynonellau eraill sydd wedi'u cyhoeddi (gan gynnwys ffigurau blynyddol ar anheddau gwag a gyhoeddwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2022 (Tabl 615)) oherwydd bod cyfnodau casglu data gwahanol a goblygiadau posibl y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi'i gynnal yn ystod y pandemig.

Gallwn gymharu canran yr anheddau gwag rhwng 2011 a Chyfrifiad 2021, gweler Housing in England and Wales: 2021 compared with 2011, ond dyma'r cyfrifiad cyntaf lle rydym wedi gallu rhannu'r anheddau gwag yn gartrefi gwirioneddol wag ac ail gartrefi.

Ansawdd

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Maximising the quality of Census 2021 population estimates.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Tai yng Nghymru a Lloegr
Bwletin Ystadegol | Rhyddhawyd
Nodweddion tai ar lefel anheddau, yng Nghymru a Lloegr

Mwy nag 1 o bob 10 cyfeiriad yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr
Bwletin Ystadegol | Rhyddhawyd ar 20 Mehefin 2023
Dadansoddiad o leoliad ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau ledled Cymru a Lloegr, faint o bobl sy'n eu defnyddio ac o ble y maent yn teithio.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 27 Hydref 2023, gwefan y SYG, bwletin ystadegol, Nifer y cartrefi gwag ac ail gartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Nikki Bowers, Tony Wilkins
better.info@ons.gov.uk
Ffôn: +44 2037 411789