Mae Ceredigion yn ardal wledig â phoblogaeth fach, a nodweddir yn bennaf gan ei chyfran uchel o fyfyrwyr.

Mae hyn yn peri heriau wrth amcangyfrif y boblogaeth ar adeg benodol, sy'n golygu bod angen data mwy amserol a manylach er mwyn darparu'r darlun mwyaf cywir o boblogaeth Ceredigion a chyfeirio gwasanaethau yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion ledled yr ardal. Mae'r erthygl hon yn dangos sut y gallwn ddefnyddio data gweinyddol ar y cyd ag ystod ehangach o ffynonellau data i gyflawni hyn.

Mae'r holl ystadegau sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn yr erthygl hon yn cyfeirio at ganol y flwyddyn ac mae Cyfrifiad 2021 yn cyfeirio at fis Mawrth 2021. Gall hyn arwain at rai gwahaniaethau yn y cymariaethau. Yr eithriad i hyn yw'r amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol (ac eithrio Ffigur 3) a gaiff eu cymharu â'r Amcangyfrifon canol blwyddyn yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021.

!

Nid yw rhai ystadegau yn yr adroddiad hwn yn swyddogol ac ni ddylid eu defnyddio i wneud penderfyniadau. Amcangyfrifon yn seiliedig ar fethodolegau newydd yw'r rhain sy'n wahanol i'r rhai a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar hyn o bryd. Ni ddylid atgynhyrchu'r allbynnau hyn heb y rhybudd hwn.

Y Boblogaeth a Mudo yng Ngheredigion

Caiff maint a strwythur y boblogaeth yng Ngheredigion ei nodweddu'n bennaf fel poblogaeth gymharol sefydlog gyda chyfran fawr o fyfyrwyr. Mae'r patrymau hyn yn debyg i amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ac Amcangyfrifon Canol Blwyddyn yn seiliedig ar y cyfrifiad. Mae ein hamcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn dangos bod 70,600 o bobl yn byw yng Ngheredigion yn 2021. Cynyddodd hyn 0.9% i 71,300 yn 2022 (Ffigur 2). Roedd 51.2% o'r boblogaeth yn fenywod, a 48.8% yn ddynion.

Ffigur 1: Mae amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn dangos bod canran fwyaf y bobl sy'n byw yng Ngheredigion rhwng 19 a 21 oed

Strwythur oedran y boblogaeth ar gyfer amcangyfrifon canol blwyddyn o gymharu ag amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol, yn ôl rhyw, Ceredigion, 2021

Embed code

Notes:
  1. Gan fod amcangyfrifon canol blwyddyn yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021 yn cael eu defnyddio fel mewnbwn i'r model, mae'r allbynnau yn debyg iawn i amcangyfrifon canol blwyddyn yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021. Mae gwahaniaethau bach oherwydd bod y model poblogaeth dynamig yn cydbwyso'r wybodaeth sydd ar gael mewn stociau a llifoedd poblogaeth yn seiliedig ar eu mesurau manwl gywirdeb priodol.
Download the data

.xlsx

Mae nodi symudiad y boblogaeth i mewn ac allan o'r ardal hefyd yn bwysig i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn iddynt ddeall yr anghenion newidiol am wasanaethau, yn enwedig yn ystod ac ar ôl digwyddiad arbennig fel y pandemig. Mae ein hamcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn ein galluogi i weld y newid yn y boblogaeth rhwng 2021 (yn ystod cyfnodau clo amrywiol) a 2022 (ar ôl y cyfnod clo) o leiaf bedwar mis yn gynt na'r system bresennol yn seiliedig ar y cyfrifiad.

Ffigur 2: Cynyddodd poblogaeth Ceredigion 0.9% i 71,300 o bobl rhwng 2021 a 2022

Newid yn y boblogaeth yn ôl amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, 2021 i 2022

Embed code

Notes:
  1. Mae Dinas Llundain (plws 24%) ac Ynysoedd Scilly (plws 10%) wedi cael eu hepgor o'r ffigur er mwyn dangos dosbarthiad yr holl ardaloedd eraill yn gliriach ledled Cymru a Lloegr.
Download the data

.xlsx

Gallwn hefyd ddeall mwy mewn ardaloedd lleol, fel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is , gan ddefnyddio data gweinyddol yn rheolaidd er mwyn deall sut mae'r poblogaethau lleol yn newid.

Rydym wedi cymharu ein hamcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, gydag oddeutu 85% o'r ardaloedd yn dangos gwahaniaethau o fewn plws neu finws 8% o amcangyfrifon y cyfrifiad. Mae gwahaniaethau mwy rhwng amcangyfrifon nag ar lefel awdurdod lleol mewn rhai ardaloedd. Mae ein hymchwil flaenorol yn dangos bod y gwahaniaethau mwy hyn yn aml pan fo sefydliadau cymunedol â phoblogaethau mawr sy'n newid yn rheolaidd mewn ardaloedd bach, fel myfyrwyr mewn neuaddau preswyl neu aelodau o'r lluoedd arfog mewn canolfannau milwrol. Mae'r grwpiau poblogaeth hyn yn llai tebygol o ryngweithio â gwasanaethau mewn ffordd arferol ac mae'n bosibl na fyddant yn cael eu cofnodi yn yr un lleoliad â'r cyfrifiad.

Yn ogystal â hyn, rydym yn gweld gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon yn seiliedig ar y cyfrifiad ac amcangyfrifon yn seiliedig ar ddata gweinyddol mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o fudo i mewn ac allan o ardal. Mae hyn oherwydd gwahaniaethau yn y cyfnod cyfeirio a'r amser y mae'n ei gymryd i ddiweddaru cofnodion gweinyddol ar ôl symud.

Ffigur 3: Roedd y gwahaniaeth mwyaf mewn amcangyfrifon poblogaeth rhwng rhai a oedd yn seiliedig ar ddata gweinyddol a rhai Cyfrifiad 2021 mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is â sefydliadau cymunedol

Gwahaniaeth canrannol rhwng amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol ac amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, Ceredigion, 2021

Embed code

Notes:
  1. Mae'r ffigurau yn y siart hon wedi defnyddio amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 yn hytrach na'n Hamcangyfrifon Canol Blwyddyn y cyfeirir atynt yn Ffigurau 1 a 2.* *Mae'r rhain wedi cael eu defnyddio fel procsi gan ein bod yn gweithio ar gynhyrchu Amcangyfrifon Canol Blwyddyn ar lefelau lleol ar hyn o bryd. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein canllaw technegol ar bynciau.
Download the data

.xlsx

Newidiadau ym mhoblogaeth Ceredigion yn ystod y dydd

Mae deall pwy neu ba ymddygiadau sy'n ysgogi'r newidiadau hyn yn y boblogaeth yn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau ymhellach ynghylch cyfeirio gwasanaethau. Er enghraifft, gall fod angen rhagor o wasanaethau meddygol ar ardal os bydd y boblogaeth yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y dydd. 

Gan edrych ar y newidiadau ym mhoblogaethau ardal leol Ceredigion, gwelwn fod cyfrifon poblogaeth uwch mewn rhai ardaloedd ar adegau penodol yn ystod y dydd, a chredwn fod hyn yn cael ei ysgogi gan bobl sy'n teithio i'r gwaith neu'r brifysgol ac oddi yno.

Nodweddion ac is-grwpiau'r boblogaeth yng Ngheredigion

Y tu hwnt i faint a strwythur y boblogaeth, gallwn ddysgu mwy am gyfansoddiad yr ardaloedd a'r cymunedau lleol ledled Ceredigion drwy archwilio nodweddion y rhai sy'n byw yno. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ymhellach pam y gall fod anghydraddoldebau ledled yr ardaloedd lleol er mwyn nodi lle gall fod angen cymorth neu wasanaethau ychwanegol.

Mae gan Geredigion gyfran ychydig yn uwch o bobl yn y grŵp ethnig "Gwyn" o gymharu â chyfartaledd Cymru (2.0 bwynt canran yn uwch) yn yr ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol .I'r gwrthwyneb, ar gyfer grwpiau ethnig "Asiaidd", "Du", "Cymysg" ac "Arall", mae'r ffigurau ar gyfer Ceredigion hyd at 1.1 pwynt canran yn is na chyfartaledd Cymru.

O gymharu â ffigurau'r cyfrifiad, mae dosbarthiadau ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer Ceredigion yn eithaf tebyg gyda rhai gwahaniaethau, yn nodedig ar gyfer y boblogaeth oedran gweithio "Asiaidd" (Ffigur 5b).I ryw raddau, mae hyn oherwydd bod y boblogaeth ethnig leiafrifol (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig "Gwyn" pan fyddwn yn cyfeirio at grŵp ethnig lleiafrifol) yng Ngheredigion yn fach, ond mae'r ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn tanamcangyfrif y poblogaethau ethnig lleiafrifol hyd at 0.4 pwynt canran. Nodwyd patrymau tebyg yn ein cyhoeddiad blaenorol.

Ffigur 4: Mae'r gyfran o grwpiau ethnig yng Ngheredigion yn ôl yr ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn debyg i'r cyfrifiad

Poblogaeth yn ôl grŵp ethnig pum categori yr ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol a Chyfrifiad 2021, Ceredigion, 2021

Embed code

Download the data

.xlsx

Gallwn ddysgu mwy am ein poblogaeth a'i hanghenion o ran gwasanaeth drwy ddadgyfuno yn ôl nodweddion fel oedran a rhyw. Er enghraifft, er mwyn deall anghenion gofal iechyd yn well, gallwn archwilio'r gwahaniaethau rhwng y mathau o boblogaethau sy'n heneiddio ledled ein hardaloedd lleol.

Gan gymharu'r grŵp ethnig “Gwyn” â phob grŵp ethnig arall yng Ngheredigion, mae Ffigur 5 yn dangos dadansoddiadau oedran grwpiau ethnig gwahanol. Mae dosbarthiadau ethnigrwydd y grwpiau oedran yn debyg, er bod ychydig o duedd i'r grwpiau oedran iau fod yn fwy amrywiol. Mae deall cyfansoddiad ardaloedd lleol yn helpu i lywio darpariaethau iechyd yn y dyfodol i ardaloedd fel Ceredigion.

Mae'r tueddiadau hyn yn debyg i ddosbarthiad grwpiau ethnig cyffredinol Cyfrifiad 2021 ac yn gymaradwy ar draws y grwpiau oedran yn fras.

Ffigur 5: Mae poblogaeth oedran iau Ceredigion yn dangos ychydig o duedd i fod yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd na grwpiau oedran hŷn ar gyfer dynion a menywod

5a. Ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol, grŵp ethnig “Gwyn” yn ôl oedran a rhyw, Ceredigion, 2021

Embed code

Download the data

.xlsx

5b. Ystadegau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol, pob grŵp ethnig arall yn ôl oedran a rhyw, Ceredigion, 2021

Embed code

Gallwn hefyd ddysgu am y gwahaniaethau hyn ar lefel ardaloedd lleol llai, gan gynnwys Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is. I gael rhagor o wybodaeth am grwpiau ethnig ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, edrychwch ar ein tablau data sy'n cynnwys ffigurau wedi'u diweddaru ar gyfer 2021. Gallwch weld tystiolaeth o gwmpas Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn ôl Ystadegau Ethnigrwydd yn seiliedig ar Ddata Gweinyddol yn ein cyhoeddiad blaenorol.

Gan ddefnyddio ein hystadegau incwm yn seiliedig ar ddata gweinyddol, gallwn greu darlun manylach o'r ffordd y mae pobl Ceredigion yn byw a deall anghydraddoldeb sy'n bodoli ar lefelau lleol.

Incwm net canolrifol cyfeiriadau wedi'u meddiannu yw incwm pobl sy'n byw yn yr un cyfeiriad, a gaiff ei ddefnyddio fel procsi ar gyfer cartrefi gennym. Yng Ngheredigion, mae incwm net canolrifol cyfeiriadau wedi'u meddiannu (£24,222) yn is nag ar gyfer Cymru yn gyffredinol (£26,427), ar gyfer y flwyddyn dreth gyfeirio a ddaeth i ben yn 2018.

Drwy edrych ar yr amrywiad ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, gwelwn fod y duedd hon yn wir ar gyfer y rhan fwyaf o ardaloedd yng Ngheredigion, gyda rhai amrywiadau. Mae hyn yn bwysig i gynllunwyr a darparwyr gwasanaethau lleol er mwyn targedu eu gwasanaethau yn well. Mae rhai cafeatau i'w hystyried wrth ddadansoddi'r tueddiadau hyn, er enghraifft, nid oes incwm wedi'i gofnodi ar ddata gweinyddol 1.7% o'r cyfeiriadau wedi'u meddiannu. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw technegol ar bynciau.

Ffigur 6: Incwm net canolrifol cyfeiriadau wedi'u meddiannu yn debyg ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd lleol yng Ngheredigion

Incwm net canolrifol cyfeiriadau wedi'u meddiannu (£) yn ôl ystadegau incwm yn seiliedig ar ddata gweinyddol, Ceredigion, y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn 2018

Embed code

Notes:
  1. Mae ystadegau incwm yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn defnyddio'r cysyniad o gyfeiriad wedi'i feddiannu i gofnodi incwm cartrefi, gan grwpio unigolion y cofnodwyd eu bod yn byw yn yr un cyfeiriad.
  2. Mae'r ffigurau yn tybio bod yr incwm wedi'i rannu'n gyfartal rhwng holl aelodau'r cyfeiriad wedi'i feddiannu.
  3. Caiff incwm net ei gyfrifo drwy ddidynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (a gyfrifir yn unol â chanllawiau CThEF) o incwm gros.
Download the data

.xlsx

Mae ein hystadegau incwm yn ôl ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn amcangyfrif incwm net unigolion 16 oed a throsodd â gwybodaeth am incwm wedi'i nodi yn ôl y pum categori o grŵp ethnig. "Gwyn" yw poblogaeth Ceredigion yn bennaf ac mae incwm net canolrifol cyfeiriadau wedi'u meddiannu yn is na chyfartaledd Cymru. Caiff hyn ei adlewyrchu yn nosbarthiad incwm unigol y grŵp ethnig "Gwyn". Mae amrywiadau ehangach yn nosbarthiadau incwm y grŵp ethnig "Asiaidd" a "Du", yn bennaf oherwydd bod gwerthoedd eithafol yn cael mwy o effaith ar faint bach y boblogaeth hon. Ceir rhagor o wybodaeth am ystadegau incwm yn ôl ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol, gan gynnwys esboniadau dros y gwahaniaethau yn y mesurau, yn yr erthygl gyhoeddedig.

Ffigur 7: Mae mesurau incwm yn y set ddata ystadegau incwm yn ôl ethnigrwydd yn seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer Ceredigion yn dangos amrywiad rhwng grwpiau ethnig

Incwm net y 10fed canradd, canolrif, a 90fed canradd ar gyfer unigolion 16 oed a throsodd gyda gwybodaeth am incwm wedi’i nodi yn ôl 5 categori o grŵp ethnig, Ceredigion, y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn 2021

Embed code

Notes:
  1. Nid yw'r grŵp ethnig “Arall” wedi'i gynnwys yn y Ffigur hwn yn unol â mesurau rheoli datgelu ystadegol sydd ar waith er mwyn sicrhau nad oes modd adnabod unrhyw unigolyn o'r ystadegau.
  2. Ni allwn bennu eto pa mor gynrychioliadol yw ein dadansoddiad o'r boblogaeth gyfan ac felly mae'n bosibl nad yw'r ffigurau hyn yn adlewyrchu incwm y boblogaeth sylfaenol ac y dylid cymryd gofal wrth eu dehongli.
  3. Roedd 79.6% â gwybodaeth am incwm ac ethnigrwydd wedi'i nodi.
  4. I gael rhagor o wybodaeth am y categorïau sydd wedi'u cynnwys, gweler ein canllaw technegol ar bynciau.
Download the data

.xlsx

Tai, y math o gartref a threfniadau byw yng Ngheredigion

Gan edrych y tu hwnt i'r unigolion sy'n ffurfio ein poblogaeth, rydym wedi defnyddio data gweinyddol i ddeall sut mae pobl yn byw gyda'i gilydd mewn cymunedau lleol.

Mae'r cyfrifiad yn grwpio preswylwyr arferol i mewn i gartrefi yn seiliedig ar y defnydd hunangofnodedig o gyfleusterau a rennir. Caiff y rhan fwyaf o gyfeiriadau preswyl yng Nghymru a Lloegr eu defnyddio gan un cartref. Yn wahanol i hyn, rydym yn adrodd ar gyfeiriadau wedi'u meddiannu am nad yw'n bosibl nodi achosion pan fo sawl cartref mewn cyfeiriad yn gywir o ddata gweinyddol yn unig. Mae cyfeiriadau yn agosach i ddiffiniad o annedd hunangynhwysol. O'r cyfrifiad, rydym yn amcangyfrif bod y gwahaniaeth hwn mewn diffiniadau yn effeithio ar lai nag 1% o anheddau.

O'n set ddata am gyfeiriadau wedi'u meddiannu yn seiliedig ar ddata gweinyddol, roedd 27,300 o gyfeiriadau wedi'u meddiannu yng Ngheredigion yn 2021 o gymharu â 30,900 o gartrefi yng Nghyfrifiad 2021. Mae'r set ddata yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn cyfrif cyfeiriadau wedi'u meddiannu tra bo'r cyfrifiad yn cyfrif cartrefi, felly caiff achosion pan fo sawl cartref yn byw yn yr un cyfeiriad eu cyfrif yn unigol yn y cyfrifiad. Nid dyma'r unig ffactor sy'n cyfrannu at y gwahaniaeth, er enghraifft, mae gennym dangyfrif yn ein set ddata sylfaenol a'r boblogaeth sylfaen, ac mae'r ffactorau hyn yn debygol o amrywio ar draws ardaloedd daearyddol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw technegol ar bynciau.

Ffigur 8: Mae mwy o gartrefi Cyfrifiad 2021 yng Ngheredigion na chyfeiriadau wedi'u meddiannu yn y set ddata am gyfeiriadau wedi'u meddiannu yn seiliedig ar ddata gweinyddol

Nifer y cyfeiriadau wedi'u meddiannu yn y set ddata am gyfeiriadau wedi'u meddiannu yn seiliedig ar ddata gweinyddol a chartrefi yng Nghyfrifiad 2021, Ceredigion, Mehefin 2021

Embed code

Download the data

.xlsx

Cyfeiriadau wedi'u meddiannu ag un neu ddau berson yn byw yno oedd fwyaf cyffredin ymhlith cyfeiriadau wedi'u meddiannu ledled Ceredigion yn 2021. Mae'r cyfrifiad yn dangos yr un peth ar gyfer cartrefi.

Ffigur 9: Mae gan y rhan fwyaf o gyfeiriadau preswyl yng Ngheredigion un neu ddau berson yn byw yno

Cyfran y cyfeiriadau wedi'u meddiannu yn y set ddata am gyfeiriadau wedi'u meddiannu yn seiliedig ar ddata gweinyddol a chartrefi yng Nghyfrifiad 2021 yn ôl nifer y bobl sy'n byw yno, Ceredigion, Mehefin 2021

Embed code

Download the data

.xlsx

Er mwyn deall trefniadau byw ymhellach, gallwn ddefnyddio ein hystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol, fersiwn 1.0. Gall hyn helpu cynllunwyr tai a'r rhai sy'n llunio polisïau i ddeall nodweddion y stoc anheddau yn eu hardaloedd yn well a diwallu anghenion tai preswylwyr yn y dyfodol yn well. Mae'r ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn darparu'r nodweddion canlynol am dai ar hyn o bryd: y math o gartref, nifer yr ystafelloedd gwely, nifer yr ystafelloedd, nifer yr ystafelloedd ymolchi a'r cyfnod adeiladu.

Mae Ffigur 8 yn dangos bod y set ddata am gyfeiriadau wedi'u meddiannu yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn cyfrif llai o gyfeiriadau wedi'u meddiannu na chartrefi'r cyfrifiad. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol. Wrth gymharu amcangyfrifon Asiantaeth y Swyddfa Brisio o nifer yr ystafelloedd â Chyfrifiad 2021, mae'r ffigurau yn amrywio yn dibynnu ar b'un a ydym yn dadansoddi'r holl gyfeiriadau preswyl neu gyfeiriadau preswyl wedi'u meddiannu. Yn Ffigur 10, gwelwn fod yr ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn dangos dosbarthiad tebyg i'r cyfrifiad a bod gan y rhan fwyaf o anheddau yng Ngheredigion rhwng tair a phum ystafell.

Ffigur 10: Mae gan anheddau yng Ngheredigion bedair ystafell gan amlaf

Dosbarthiad cartrefi Cyfrifiad 2021 yn ôl nifer yr ystafelloedd, ar y cyd â dosbarthiad cyfeiriadau preswyl a chyfeiriadau preswyl wedi'u meddiannu yn yr ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol fersiwn 1.0, Ceredigion, 2021

Embed code

Notes:
  1. Mae'r ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol  yn cyfrif cyfeiriadau tra bo Cyfrifiad 2021 yn cyfrif cartrefi, felly caiff achosion pan fo sawl cartref yn byw yn yr un cyfeiriad eu cyfrif yn unigol yn y cyfrifiad.
  2. Yn groes i gyfrifiadau blaenorol, ni ofynnodd Cyfrifiad 2021 gwestiwn am nifer yr ystafelloedd, ond defnyddiodd ddata gweinyddol cysylltiol.
  3. I gael rhagor o wybodaeth am y diffiniadau gwahanol hyn, gweler ein* canllaw technegol ar bynciau.
Download the data

.xlsx

Mae gwybod pa mor hen yw anheddau y mae preswylwyr yn byw ynddynt yn ein galluogi i ddeall nodweddion ein stoc dai ymhellach a chynllunio ar gyfer anghenion yn y dyfodol.

Yng Ngheredigion, adeiladwyd 14,295 o anheddau cyn 1919, ond dim ond 10,300 oedd wedi'u meddiannu yn 2021 yn ôl yr ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol, fersiwn 1.0.

Ffigur 11: Adeiladwyd cyfran fawr o stoc dai Ceredigion cyn 1919

Nifer yr anheddau yn ôl cyfnod adeiladu Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer pob cyfeiriad yn yr ystadegau am y stoc dai yn seiliedig ar ddata gweinyddol, Ceredigion, Mehefin 2021

Embed code

Download the data

.xlsx

Gan ddefnyddio'r set ddata seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer tai yn ôl ethnigrwydd, fersiwn 2.0, gallwn ehangu ein dealltwriaeth o drefniadau byw grwpiau ethnig gwahanol ledled Ceredigion. Fel enghraifft, rydym wedi cynhyrchu dadansoddiad ar y math o gartref y mae grwpiau ethnig yn byw ynddo a nifer yr ystafelloedd gwely yn yr anheddau hyn.

Yng Ngheredigion, mae gwahaniaethau o ran y mathau o gartrefi y mae grwpiau ethnig gwahanol yn byw ynddynt, ac adlewyrchir hyn yn nifer yr ystafelloedd gwely hefyd.

Mae Ffigur 12 yn dangos mai cyfeiriadau ar wahân yw'r math mwyaf cyffredin o gartref ar gyfer pob grŵp ethnig, a bod bron hanner poblogaeth Ceredigion yn byw ynddynt. O gymharu â grwpiau ethnig eraill, unigolion "Gwyn" sydd fwyaf tebygol o fyw mewn tai ar wahân, mae unigolion "Du" yn fwy tebygol o fyw mewn tai semi ac mae'r rhai yn y grŵp ethnig "Arall" yn fwy tebygol o fyw mewn tai teras.

Ffigur 12: Yng Ngheredigion, tai ar wahân yw'r math mwyaf cyffredin o gartref Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gyfer pob grŵp ethnig

Math o gartref Asiantaeth y Swyddfa Brisio (diffiniad Cyfrifiad 2021) yn y set ddata seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer tai yn ôl ethnigrwydd (fersiwn 2.0) yn ôl grŵp ethnig, Ceredigion, 2021

Embed code

Notes:
  1. Mae'r data yn cynrychioli unigolion yn hytrach na chyfeiriadau, fel y defnyddiwyd yn yr adran uchod am dai.
  2. Newidyn deilliedig yw math o gartref Asiantaeth y Swyddfa Brisio a gynlluniwyd i gyd-fynd â diffiniad Cyfrifiad 2021: i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw technegol ar bynciau.
  3. Nid yw'r ffigurau wedi cael eu haddasu er mwyn cyfrif am wahaniaethau mewn strwythur oedran neu faint cartrefi yn ôl grŵp ethnig o fewn y boblogaeth.
  4. Mae'r ffigurau yn cynnwys gwerthoedd wedi'u hatal a'u talgrynnu, felly bydd rhai categorïau yn ymddangos fel pe baent o dan neu dros 100%.
Download the data

.xlsx

Er mai'r nifer mwyaf cyffredin o ystafelloedd gwely ar gyfer pob grŵp ethnig yw tair, mae unigolion “Asiaidd” yn fwy tebygol na phob grŵp ethnig arall o fyw mewn anheddau â phedair ystafell wely neu fwy (gweler Ffigur 13).

Ffigur 13: Mae unigolion yn y grŵp ethnig “Asiaidd” yn fwy tebygol o fyw mewn annedd â phedair ystafell wely neu fwy o gymharu â phob grŵp ethnig arall

Nifer yr ystafelloedd gwely Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn y set ddata seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer tai yn ôl ethnigrwydd (fersiwn 2.0) yn ôl grŵp ethnig, Ceredigion, 2021

Embed code

Notes:
  1. Mae'r data yn cynrychioli unigolion yn hytrach na chyfeiriadau, fel y defnyddiwyd yn y ffigurau tai yn yr adran uchod am dai.
  2. Mae gwahaniaethau diffiniadol rhwng nifer yr ystafelloedd gwely yn nata'r cyfrifiad a data Asiantaeth y Swyddfa Brisio a ddefnyddir yn y set ddata seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer tai yn ôl ethnigrwydd: gweler y canllaw technegol ar bynciau i gael rhagor o wybodaeth
  3. Nid yw'r ffigurau wedi cael eu haddasu er mwyn cyfrif am wahaniaethau mewn strwythur oedran neu faint cartrefi yn ôl grŵp ethnig o fewn y boblogaeth.
  4. Mae'r ffigurau yn cynnwys gwerthoedd wedi'u hatal a'u talgrynnu, felly bydd rhai categorïau yn ymddangos fel pe baent o dan neu dros 100%.
Download the data

.xlsx

Y tu hwnt i'r boblogaeth sy'n byw mewn cartrefi preifat, gallwn ddysgu mwy am y boblogaeth sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol. Lleoedd a gaiff eu goruchwylio drwy'r amser neu am ran o'r amser ac sy'n darparu llety yw sefydliadau cymunedol. Mae'n anodd cofnodi'r grwpiau hyn yn ein poblogaeth, felly mae gwaith wedi dechrau i ddeall mwy am bwy sy'n byw yno. Gyda ffigurau sy'n cael eu diweddaru'n fwy rheolaidd, gallwn gofnodi sut mae'r boblogaeth sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol yn newid dros amser a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y gwasanaethau a ddarperir mewn ardaloedd lleol.

Mae'r set ddata sefydliadau cymunedol yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn dangos mai 3,345 oedd cyfanswm y boblogaeth a oedd yn byw mewn sefydliadau cymunedol yng Ngheredigion, o gymharu â 3,630 yn y cyfrifiad. O blith y rhai a oedd mewn sefydliadau cymunedol yn ôl data gweinyddol, roedd 85.7% yn byw mewn neuaddau preswyl.

Drwy ddadgyfuno yn ôl oedran a rhyw, gallwn weld pwy sy'n ffurfio'r boblogaeth o breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol ledled Ceredigion.

Ffigur 14: Y grŵp oedran mwyaf cyffredin ymhlith preswylwyr sefydliadau cymunedol yng Ngheredigion oedd 0 i 24 oed i ddynion a menywod

Preswylwyr sefydliadau cymunedol yn y set ddata sefydliadau cymunedol yn seiliedig ar ddata gweinyddol ac yng Nghyfrifiad 2021 yn ôl rhyw a grwpiau oedran wedi'u bandio, Ceredigion, 2021

Embed code

Notes:
  1. Mae gan y set ddata sefydliadau cymunedol yn seiliedig ar ddata gweinyddol gyfnod cyfeirio gwahanol o gymharu â'r data a ddefnyddir yn y set ddata am gyfeiriadau wedi'u meddiannu, sy'n golygu na ellir eu cymharu'n uniongyrchol.
  2. Nid oes modd cymharu'r ffigurau yn uniongyrchol â ffigurau swyddogol yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ar gyfer neuaddau preswyl gan mai dim ond preswylwyr arferol sydd wedi'u cynnwys yn y boblogaeth sylfaen tra bo'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn cynnwys pawb sydd wedi cofrestru.
  3. Ni ellir cymharu'r ffigurau hyn â data swyddogol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar breswylwyr sydd yn y carchar
  4. Mae'r set ddata sefydliadau cymunedol yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn cynnwys ffigurau crai ac nid oes dulliau amcangyfrif ychwanegol wedi'u cymhwyso, yn wahanol i amcangyfrifon swyddogol Cyfrifiad 2021.
  5. Mae'r canrannau wedi'u cyfrifo ar wahân ar gyfer y boblogaeth gyfan, felly ni fydd pob rhyw unigol yn creu cyfanswm o 100%; mae hyn yn wahanol i ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol ac felly ni ellir eu cymharu.
Download the data

.xlsx

Mae'r gwaith dadansoddi a gyflwynir yn yr erthygl hon yn dangos sut y gall ein hystadegau sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol gefnogi ein dealltwriaeth o anghenion amrywiol a newidiol y cymunedau lleol ledled Ceredigion. Mae hyn yn dangos eu potensial a dim ond is-set yw hyn o'r hyn y gall defnyddwyr ei ddisgwyl o'n system ar gyfer cynhyrchu ystadegau am y boblogaeth ac ystadegau cymdeithasol yn y dyfodol.

I ddysgu mwy am ein cynnydd tuag at system ystadegau poblogaeth a mudo wedi'i thrawsnewid, darllenwch ein trosolwg o'r ymchwil (Saesneg yn uni).

Contact

Lucy Pilkington, Justine McNally
2023Consultation@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972