1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, roedd gan y mwyafrif o gartrefi yng Nghymru a Lloegr fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn oedd eu hangen yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely, ac felly roeddent yn byw mewn cartrefi a oedd wedi'u tanfeddiannu (76.3% yng Nghymru, 68.8% yn Lloegr).
  • Yng Nghymru, carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro oedd fwyaf tebygol o fod yn orlawn (4%) o gymharu â mathau eraill o gartrefi; yn Lloegr, fflatiau a maisonettes oedd fwyaf tebygol o fod yn orlawn (8.3%).
  • Roedd cartrefi a oedd yn byw mewn eiddo rhent yn fwy tebygol o fod yn orlawn yng Nghymru (4.3%) ac yn Lloegr (8.5%), o gymharu â chartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr (1.2% yng Nghymru ac 1.9% yn Lloegr).
  • Roedd cartrefi lle dewisodd pob aelod grefydd “Islam” chwe gwaith yn fwy tebygol o fod mewn cartref gorlawn o gymharu â phob cartref yng Nghymru a dros bum gwaith yn fwy tebygol yn Lloegr.
  • Cartrefi lle dewisodd pob aelod “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd â'r lefel uchaf o orlenwi (11.9% yng Nghymru, 16.1% yn Lloegr) o gymharu â phob cartref (2.2% yng Nghymru a 4.4% yn Lloegr).
  • Cartrefi lle roedd pob aelod yn anweithgar yn economaidd (er enghraifft, pobl oedd wedi ymddeol, yn gofalu am y cartref neu'r teulu, neu'n anabl neu'n sâl am gyfnod hir) oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi wedi'u tanfeddiannu o gymharu â phob cyfuniad arall o statws cyflogaeth.
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Cyfradd defnydd (ar gyfer ystafelloedd gwely)

Mae cyfradd defnydd yn rhoi mesur o b'un a yw cartref wedi'i orlenwi neu ei danfeddiannu. Mae cyfradd defnydd o negatif 1 neu lai nodi bod gan gartref lai o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely, felly mae'n orlawn (er enghraifft, mae negatif 1 yn golygu un ystafell wely yn llai nag sydd angen, mae negatif 2 yn golygu bod dwy ystafell wely yn llai nag sydd angen). Mae cyfradd defnydd o bositif 1 neu fwy yn nodi bod gan gartref fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen, ac felly mae wedi'i danfeddiannu (er enghraifft, mae positif 1 yn golygu un ystafell wely yn fwy nag sydd angen, mae positif 2 yn golygu bod dwy ystafell wely yn fwy nag sydd angen), ac mae 0 yn nodi bod y cartref yn bodloni'r safon ofynnol (wedi'i feddiannu yn unol â'r safon). Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniad ar gyfer y defnydd o ystafelloedd gwely yn Adran 13: Geirfa.

Gan fod Cyfrifiad 2021 wedi cael ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae'n bosibl y bydd yr amgylchiadau wedi effeithio ar breswylfa arferol rhai pobl; mae ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn esbonio'r heriau sydd ynghlwm wrth gynnal cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws a beth mae hyn yn ei olygu i'r data.

Yn 2021, roedd gan y mwyafrif o gartrefi fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn oedd ei angen, ac felly roeddent yn byw mewn cartrefi a oedd wedi'u tanfeddiannu (76.3% yng Nghymru, 68.8% yn Lloegr). Yng Nghymru, roedd gan 21.5% o gartrefi'r nifer gofynnol o ystafelloedd (wedi'u meddiannu yn unol â'r safon) a 26.8% oedd y ffigur yn Lloegr. Roedd gan 2.2% o gartrefi yng Nghymru 4.4% yn Lloegr lai o ystafelloedd gwely na'r hyn oedd ei angen (gorlawn).

Ffigur 1: Llundain oedd â'r cyfrannau uchaf o gartrefi gorlawn a chartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely), Cymru, Lloegr a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Bydd yr adrannau nesaf yn ystyried y gwahaniaethau o ran dosbarthiad cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) mewn perthynas â nodweddion cartrefi.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Cyfradd defnydd yn ôl y math o gartref

Yng Nghymru, carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro oedd fwyaf tebygol o fod yn orlawn (4%) ond, yn Lloegr, fflatiau a maisonettes oedd fwyaf tebygol o fod yn orlawn (8.3%). Eiddo ar wahân oedd fwyaf tebygol o fod wedi'u tanfeddiannu yng Nghymru ac yn Lloegr (91.1% a 90.9%, yn y drefn honno). Roedd cyfran uwch o eiddo ar wahân wedi'u tanfeddiannu yn ôl dwy ystafell wely neu fwy yng Nghymru (64.3%) ac yn Lloegr (65.6%), na'r rhai a oedd wedi'u tanfeddiannu yn ôl un ystafell wely (26.9% yng Nghymru, 25.3% yn Lloegr).

Ffigur 2: Tai neu fyngalos ar wahân oedd fwyaf tebygol o fod wedi'u tanfeddiannu

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a'r math o gartref, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

O blith yr holl ranbarthau yn Lloegr a Chymru, Llundain oedd â'r lefelau uchaf o orlenwi ar draws pob math o gartref, gan amrywio o 7.8% mewn eiddo ar wahân i 16.8% mewn carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro. Roedd mwy na hanner y cartrefi yn Llundain yn byw mewn fflat neu maisonette (54.0%) ac, o blith y rhain, roedd 13.7% yn orlawn. Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â'r ail ganran uchaf o gartrefi a oedd yn byw mewn carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro a oedd yn orlawn (5.7%), ond Llundain oedd â'r ganran uchaf (16.8%). Gwelir gwahaniaeth tebyg ymhlith tai ar wahân hefyd, yr oedd 7.8% ohonynt yn orlawn yn Llundain o gymharu â'r ail uchaf, sef Gorllewin Canolbarth Lloegr, ag 1.6%.

Ar lefel awdurdod lleol:

  • ar gyfer fflatiau a maisonettes, yn Barking a Dagenham (22.7%) a Newham (21.8%) y gwelwyd y lefelau uchaf o orlenwi
  • yn Gateshead (57.5%) a Gogledd Tyneside (56.2%) yr oedd tanfeddiannu fflatiau a maisonettes ar ei uchaf
  • ar gyfer tai neu fyngalos semi, yn Newham (26.2%) a Tower Hamlets (19.7%) y gwelwyd y lefelau uchaf o orlenwi
  • yn Richmond upon Thames (85.9%) a Barrow-in-Furness (85.1%) yr oedd tanfeddiannu tai neu fyngalos semi ar ei uchaf
  • ar gyfer tai neu fyngalos ar wahân, yn Newham (26.3%) a Tower Hamlets (21.8%) y gwelwyd y lefelau uchaf o orlenwi
  • yn Rutland (96.1%) a Hart (96%) yr oedd tanfeddiannu tai neu fyngalos ar wahân ar ei uchaf
  • ar gyfer tai neu fyngalos mewn teras, yn Newham (18.7%) a Barking a Dagenham (13.6%) y gwelwyd y lefelau uchaf o orlenwi
  • yn Copeland a Kensington a Chelsea (83.8%) yr oedd tanfeddiannu tai neu fyngalos mewn teras ar ei uchaf, sef yr ardaloedd mwyaf a lleiaf fforddiadwy yn y wlad.
Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyfradd defnydd yn ôl deiliadaeth

Roedd eiddo rhent (preifat a chymdeithasol) yn fwy tebygol o fod yn orlawn yng Nghymru (4.3%) ac yn Lloegr (8.5%), o gymharu â chartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr (1.2% yng Nghymru ac 1.9% yn Lloegr).

Wrth edrych ar gartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr ac eiddo rhent:

  • heblaw am Lundain, roedd pedwar allan o bump o gartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref mewn eiddo wedi'u tanfeddiannu
  • roedd gan Lundain gyfran is o gartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref (46.8%), ac roedd 72.5% o'r rhain wedi'u tanfeddiannu
  • yn Llundain (4.5%) yr oedd gorlenwi mewn cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr ar ei uchaf, ac yna Orllewin Canolbarth Lloegr (2.4%)
  • roedd canran uwch o gartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref yn byw mewn eiddo a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon yn Llundain (23%), ac yna Dde-ddwyrain Lloegr (13.6%)
  • mewn cartrefi a oedd yn rhentu eu cartref, roedd gan Gymru a phob rhanbarth yn Lloegr ganran o danfeddiannu a oedd dros 40.9%, heblaw Llundain oedd â 28.1%
  • roedd canran y rhentwyr a oedd yn byw mewn cartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon yn amrywio o 40.8% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 55% yn Llundain, sy'n uwch na'r ganran mewn cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr (a oedd yn amrywio o 10.6% yn Nwyrain Canolbarth Lloegr i 23.0% yn Llundain).
  • ymhlith cartrefi a oedd yn rhentu eu heiddo, roedd ystod ehangach o orlenwi, gan amrywio o 3.4% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 7.5% yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a De-ddwyrain Lloegr (heblaw Llundain); roedd gan Lundain (16.9%) fwy na dwywaith y gyfran hon o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn, a Llundain oedd yr unig ranbarth lle roedd y mwyafrif o gartrefi yn rhentu hefyd (53.2%)

Ffigur 3: Roedd gan gartrefi a oedd yn byw mewn eiddo rhent lefelau uwch o orlenwi na chartrefi a oedd yn berchen ar eu heiddo

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a deiliadaeth, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Gallwn edrych ar gyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) yn ôl deiliadaeth yn fanylach drwy rannu cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr i “yn berchen arno’n gyfan gwbl” ac “yn berchen arno gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth”; ac eiddo rhent yn “rhentu'n breifat” a “rhentu'n gymdeithasol”.

Cartrefi yn y sector rhentu cymdeithasol oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon (50.6% yng Nghymru a 55.6% yn Lloegr), a chartrefi roedd pobl yn berchen arnynt yn gyfan gwbl, yn berchen arnynt gyda morgais neu gynllun rhanberchnogaeth, a chartrefi a oedd yn cael eu rhentu'n breifat oedd fwyaf tebygol o fod wedi'u tanfeddiannu. Ymhlith cartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl y gwelwyd y cyfrannau uchaf o eiddo a oedd wedi'u tanfeddiannu (91.9% yng Nghymru ac 89.7% yn Lloegr). Ymhlith y rheini a oedd yn byw yn y sector rhentu cymdeithasol y gwelwyd y ganran uchaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn (5.2% yng Nghymru a 9.6% yn Lloegr).

Yng Nghymru a rhanbarthau Lloegr:

  • yn Ne-ddwyrain Lloegr (59.6%) a Dwyrain Lloegr (58%) y gwelwyd y ganran uchaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi wedi'u meddiannu yn unol â'r safon yn y sector rhentu cymdeithasol
  • yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a Dwyrain Canolbarth Lloegr (91.9%) y gwelwyd y ganran uchaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi wedi'u meddiannu yn unol â'r safon, ymhlith y rhai a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl
  • roedd y gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn wedi'u meddiannu gan gartrefi a oedd yn rhentu'n gymdeithasol (19.4%) ac yn rhentu'n breifat (15%) yn Llundain
  • mewn cartrefi yn y sector rhentu cymdeithasol yn Ne-ddwyrain Lloegr (8.9%) y gwelwyd y ganran uchaf o gartrefi gorlawn y tu allan i Lundain

Ffigur 4: Roedd cartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr yn llai tebygol o fod yn orlawn

Canran y cartrefi gorlawn yn ôl deiliadaeth, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyfradd defnydd yn ôl cyfansoddiad y cartref

Mae'r Safon Ystafelloedd Gwely, y mae'r ystadegau hyn yn seiliedig arni, yn ystyried cyfansoddiad cartrefi, er enghraifft, gallai dau blentyn ifanc rannu ystafell wely.

Yn 2021, cartrefi teulu un rhiant â phlant dibynnol oedd fwyaf tebygol o fod mewn cartrefi gorlawn (6.6% yng Nghymru a 12.9% yn Lloegr) o gymharu â chyfansoddiadau teuluol eraill y cartref.

Mewn cartrefi ag un teulu, roedd y rhai â phlant dibynnol yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn na'r rhai hebddynt:

  • roedd teuluoedd un rhiant â phlant dibynnol yn fwy tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn (3.3% yng Nghymru, 6.2% yn Lloegr) na theuluoedd un rhiant â phlant nad ydynt yn ddibynnol
  • roedd teuluoedd cwpwl â phlant dibynnol yn fwy tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn (3.9% yng Nghymru, 7.3% yn Lloegr) na theuluoedd cwpwl â phlant nad ydynt yn ddibynnol (2% yng Nghymru a 3.3% yn Lloegr)
  • cartrefi teulu cwpwl heb blant oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi wedi'u tanfeddiannu (95.3% yng Nghymru ac 89.8% yn Lloegr)

Ffigur 5: Mae cartrefi â phlant dibynnol yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn na'r rheini â phlant nad ydynt yn ddibynnol yn Lloegr

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfansoddiad teuluol y cartref ar gyfer cartrefi un teulu â phlant, Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Ffigur 6: Mae cartrefi â phlant dibynnol yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn na'r rheini â phlant nad ydynt yn ddibynnol yng Nghymru

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfansoddiad teuluol y cartref ar gyfer cartrefi un teulu â phlant, Cymru, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Wrth ystyried grwpiau cyfansoddiad teuluol lefel uchel y cartref, er enghraifft mathau o gartrefi un teulu wedi'u cyfuno, mae gorlenwi ar ei uchaf ymhlith y categori “Arall” (4.8% yng Nghymru a 9.7% yn Lloegr). Mae'r grŵp hwn yn cynnwys cartrefi lle mae pawb mewn addysg amser llawn, a'r rhai lle mae pawb yn 66 oed a throsodd ynghyd â chyfansoddiadau teuluol eraill, fel y dangosir yn ein Dosbarthiadau cyfansoddiad y cartref: Cyfrifiad 2021.

Roedd Llundain yn rhanbarth nodedig ar gyfer pob math o gyfansoddiad y cartref:

  • roedd gan gartrefi teulu cwpwl heb blant ganran uwch o gartrefi wedi'u meddiannu yn unol â'r safon (30.2%); roedd hyn bron dair gwaith yn uwch na'r ail ranbarth uchaf oedd â 10.8%
  • roedd gan gartrefi un person ganran uwch o gartrefi wedi'u meddiannu yn unol â'r safon (46.2%) na rhanbarthau eraill, gyda'r ail uchaf yn Ne-ddwyrain Lloegr â 30.1%;
  • roedd gan gartrefi un rhiant lle roedd yr holl blant heb fod yn ddibynnol ddwbl y gyfran o gartrefi gorlawn (13%) na'r ail ranbarth uchaf (De-ddwyrain Lloegr, 5.4%)
  • roedd gan gartrefi un rhiant â phlant dibynnol bron dair gwaith y gyfran (29.7%) o dai gorlawn o gymharu â'r ail ranbarth uchaf, sef Gorllewin Canolbarth Lloegr (11.7%)

Ffigur 7: Cartrefi un rhiant â phlant dibynnol oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn yn Llundain

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfansoddiad teuluol y cartref, Llundain, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Roedd yr awdurdodau lleol â'r lefelau uchaf o orlenwi yn Llundain:

  • yn Westminster (38.3%), Newham (37.8%) a Tower Hamlets (37.3%) yr oedd cartrefi un rhiant â phlant dibynnol fwyaf gorlawn
  • yn Ninas Llundain (21.4%), Tower Hamlets (20.2%) a Westminster (20%) yr oedd cartrefi cwpwl â phlant nad ydynt yn ddibynnol fwyaf gorlawn
  • yn Tower Hamlets (39.9%), Newham (33.4%) a Brent (27%) yr oedd cartrefi cwpwl â phlant dibynnol fwyaf gorlawn
  • yn Westminster (21.4%), Kensington a Chelsea (19.3%) a Newham (18.8%) yr oedd teuluoedd un rhiant heb blant dibynnol fwyaf gorlawn
Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyfradd defnydd yn ôl oedran

Roedd cartrefi a oedd yn cynnwys o leiaf un person ym mhob un o'r tri band oedran (0 i 15 oed, 16 i 64 oed, a 65 oed a throsodd) dros saith gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn (19.5% yng Nghymru a 30.8% yn Lloegr) o gymharu â “pob cartref”. Gall hyn fod o ganlyniad i gartrefi mwy o faint. Yng Nghymru, cartrefi â phreswylwyr yn y tri band oedran oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi wedi'u meddiannu yn unol â'r safon hefyd (39.2%), o gymharu â chyfuniadau eraill o oedrannau mewn cartrefi. Yn Lloegr, roedd cartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon yn fwy cyffredin ymhlith cartrefi lle roedd pob preswylydd yn gymysgedd o ddau fand oedran (0 i 15 oed ac 16 i 64 oed), sef 38% o'r holl gartrefi.

Mewn cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 65 oed a throsodd y gwelwyd y canrannau uchaf o danfeddiannu, gyda 90.2% yng Nghymru ac 86.1% yn Lloegr. Yn Lloegr, roedd mwy o gartrefi yn y grŵp hwn a oedd mewn tai a oedd wedi'u tanfeddiannu gan bositif 2 neu fwy (56.8%), na phositif 1 (29.3%). Yng Nghymru, mae mwy na dwywaith y cartrefi wedi'u tanfeddiannu gan bositif 2 neu fwy (63.3%) na chartrefi wedi'u tanfeddiannu gan bositif 1 (27%).

Ffigur 8: Cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 65 oed a throsodd oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o oedran preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Nodiadau
  1. Nid yw'r siart hon yn cynnwys data ar gyfer cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 15 oed ac iau. Ceir gwybodaeth am gartrefi â phlant yn unig yn Adran 14: Ansawdd a ffynonellau data

    Download this chart
    .xlsx
Nôl i'r tabl cynnwys

7. Cyfradd defnydd yn ôl grŵp ethnig

Cafodd cartrefi eu dosbarthu yn ôl y grwpiau ethnig a nodwyd gan aelodau'r cartref. I gael gwybodaeth am broses dau gam y cwestiwn am grŵp ethnig yng Nghyfrifiad 2021, darllenwch ein herthygl Ethnic group by age and sex, England and Wales: Census 2021.

Cartrefi lle nododd pob preswylydd y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu (77.5% yng Nghymru a 73% yn Lloegr). Gwelwyd y cyfraddau tanfeddiannu uchaf yn y grŵp hwn yng Nghymru (77.5%) ac yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (77.6%). Cartrefi lle nododd pob preswylydd y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd â'r cyfraddau isaf o orlenwi (1.9% yng Nghymru a 2.5% yn Lloegr), ond roedd y ffigur yn sylweddol uwch yn Llundain (5.9%).

Cartrefi lle dewisodd pob aelod “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd â'r lefel uchaf o orlenwi (11.9% yng Nghymru, 16.1% yn Lloegr) o gymharu â phob cartref (2.2% yng Nghymru a 4.4% yn Lloegr). Fodd bynnag, wrth ystyried rhanbarthau, roedd lefelau gorlenwi ar eu huchaf mewn cartrefi lle nododd pawb y grŵp ethnig “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (12.7%), Dwyrain Lloegr (11.5%), Gogledd-orllewin Lloegr (15.9%), Gorllewin Canolbarth Lloegr (14.5%), a Swydd Efrog a Humber (13.6%).

Dylid ystyried proffiliau oedran grwpiau ethnig lefel uchel wrth archwilio gwahaniaethau mewn cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely). Mae data'r cyfrifiad yn dangos mai pobl a nododd y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd â'r oedran cyfartalog hynaf (43 oed yng Nghymru, 42 oed yn Lloegr). Y rheini a nododd Grwpiau Cymysg neu Amlethnig oedd â'r oedran cyfartalog isaf (19 oed yng Nghymru a 18 oed yn Lloegr).

Ffigur 9: Roedd gorlenwi yn fwy tebygol mewn cartrefi lle nododd pawb “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o grŵp ethnig preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Nodiadau:
  1. Cafodd y grwpiau ethnig “Asiaidd Cymreig” a “Du Cymreig” eu cynnwys ar holiadur y cyfrifiad yng Nghymru yn unig.

    Lawrlwythwch y data
    .xlsx
Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfradd defnydd yn ôl crefydd

Yn Lloegr, roedd 22.5% o'r cartrefi lle nododd pob person a atebodd y cwestiwn am grefydd "Islam" yn orlawn – mae hyn fwy na phum gwaith yn fwy tebygol na phob cartref (4.4%).

Cartrefi lle nododd pob person “Iddewiaeth” wrth ateb y cwestiwn oedd â'r gyfran uchaf a oedd yn byw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu (75.4%), ac yna cartrefi lle nododd pob person “Cristnogaeth” wrth ateb y cwestiwn (75.1%).

Gall proffiliau oedran amrywiol grwpiau crefyddol ddylanwadu ar gyfraddau defnydd. Canfu ein dadansoddiad Religion by age and sex, England and Wales: Census 2021 mai pobl a nododd “Islam” oedd â'r oedran cyfartalog ieuengaf, sef 27 oed, a phobl a nododd “Cristnogaeth” oedd â'r oedran cyfartalog hynaf, sef 51 oed.

Gallwn edrych ar danfeddiannu wedi'i rannu i'r rhai sydd wedi'u tanfeddiannu gan bositif 1 (mae gan y cartref un ystafell wely yn fwy na'r hyn sydd ei angen yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely) a'r rhai sydd wedi'u tanfeddiannu gan bositif 2 (dwy ystafell wely neu fwy ohonynt yn fwy na'r hyn sydd ei angen). Cartrefi lle nododd y bobl “Cristnogaeth” yn unig ac “Iddewiaeth” yn unig wrth ateb y cwestiwn oedd â'r canrannau uchaf o gartrefi oedd â dwy ystafell wely neu fwy na'r nifer gofynnol yn Lloegr (42.8% ar gyfer "Cristnogaeth” yn unig a 42.7% ar gyfer “Iddewiaeth” yn unig). Yn Lloegr, roedd gan gartrefi lle nodwyd “Cristnogaeth” yn unig, “Hindŵaeth” yn unig, “Iddewiaeth” yn unig, “Siciaeth” yn unig, a “Cristnogaeth” a “Crefydd arall” gyfran fwy o gartrefi a oedd wedi'u tanfeddiannu gan ddwy ystafell wely neu fwy, na'r rhai oedd wedi'u tanfeddiannu gan un ystafell wely. Cartrefi lle nodwyd “Islam” yn unig oedd â'r gyfran isaf o gartrefi a oedd wedi'u tanfeddiannu gan ddwy ystafell wely neu fwy (14.2%).

Ffigur 10: Cartrefi lle nodwyd “Islam” yn unig oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn yn Lloegr

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr, Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Yn yr un modd yng Nghymru, mewn cartrefi lle nododd pob person a atebodd y cwestiwn am grefydd "Islam" y gwelwyd y lefelau uchaf o orlenwi (14.8%), ac roedd y cartrefi hyn fwy na chwe gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn o gymharu â phob cartref.

Mewn cartrefi lle nodwyd “Cristnogaeth” yn unig (83.8%) ac “Iddewiaeth” yn unig (80.6%) y gwelwyd y canrannau uchaf o gartrefi wedi'u tanfeddiannu. Roedd gan y rhain gyfran uwch o gartrefi a oedd wedi'u tanfeddiannu gan ddwy ystafell wely neu fwy, o gymharu ag un ystafell wely (52.1% mewn cartrefi lle nodwyd “Cristnogaeth” yn unig a 45% mewn cartrefi lle nodwyd “Iddewiaeth” yn unig).

Ffigur 11: Cartrefi lle nodwyd “Cristnogaeth” yn unig oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu yng Nghymru

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr, Cymru, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Llundain oedd â'r gyfran uchaf o orlenwi ar draws yr holl gyfuniadau o grwpiau crefyddol, heblaw am gartrefi a nododd “Hindŵaeth” yn unig, lle gwelwyd y gyfran uchaf yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (12.1%), a chartrefi a nododd “Iddewiaeth” yn unig, lle gwelwyd y gyfran uchaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (5.5%).

Gan edrych ar orlenwi ar gyfer cyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr, roedd y rhan fwyaf o'r lefelau uchaf yn Llundain:

  • ar gyfer cartrefi a nododd “Islam” yn unig, yn Tower Hamlets (39.5%), Newham (35.2%) a Camden (33.5%) y gwelwyd y gyfran fwyaf a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
  • ar gyfer cartrefi a nododd “Dim crefydd” yn unig, yn Barking a Dagenham (13.6%), Slough (9.8%) a Harlow (8.6%) y gwelwyd y gyfran fwyaf a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
  • ar gyfer cartrefi a nododd “Cristnogaeth” yn unig, yn Newham (19%), Brent (16.8%) a Barking a Dagenham (15.5%) y gwelwyd y gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
  • ar gyfer cartrefi a nododd “Bwdhaeth” yn unig, yn Rushmoor (19.9%), Reading (16.9%) a Hounslow (16.3%) y gwelwyd y gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
  • ar gyfer cartrefi a nododd “Hindŵaeth” yn unig, yng Nghaerlŷr (19.6%), Waltham Forest (19%) a Newham (18.7%) y gwelwyd y gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
  • ar gyfer cartrefi a nododd “Iddewiaeth” yn unig, yn Hackney (22%), Salford (12.1%) a Castle Point (11.5%) y gwelwyd y gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
  • ar gyfer cartrefi a nododd “Siciaeth” yn unig, yn Hackney (26.6%), Swydd Amwythig (23.1%) a Newham (18%) y gwelwyd y gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn cartrefi gorlawn
Nôl i'r tabl cynnwys

9. Cyfradd defnydd yn ôl statws cyflogaeth

Cafodd cartrefi eu dosbarthu yn ôl statws cyflogaeth aelodau o'r cartref a oedd yn 16 oed a throsodd.

Mewn cartrefi â chymysgedd o breswylwyr yn y tri grŵp statws cyflogaeth – mewn gwaith, yn ddi-waith ac yn anweithgar yn economaidd – y gwelwyd y ganran uchaf o orlenwi (16.3% yng Nghymru, 27.9% yn Lloegr). Gall hyn fod o ganlyniad i gartrefi mwy o faint. Cartrefi lle roedd pob aelod “yn ddi-waith” oedd â'r gyfran uchaf o dai a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon, gyda 44.9% yng Nghymru a 51.5% yn Lloegr.

Mewn cartrefi lle roedd pob aelod yn anweithgar yn economaidd y gwelwyd y ganran uchaf o danfeddiannu (79.6% yng Nghymru a 74.5% yn Lloegr). Roedd y grŵp hwn yn cynnwys pobl oedd wedi ymddeol, yn gofalu am y cartref neu'r teulu, myfyrwyr neu bobl a oedd anabl neu'n sâl am gyfnod hir. Ymhlith cartrefi wedi'u tanfeddiannu yn Lloegr, cartrefi lle roedd pob aelod yn anweithgar yn economaidd oedd yr unig grŵp cyfuniad cyflogaeth oedd â chyfradd defnydd o bositif 2 (45.2%) a oedd yn fwy na chyfradd defnydd o bositif 1 (29.3%). Yng Nghymru roedd dau grŵp: roedd dros hanner yr holl gartrefi lle roedd pob aelod yn anweithgar yn economaidd (50.2%) mewn cartrefi a oedd wedi'u tanfeddiannu gan o leiaf ddwy ystafell wely. Roedd tai lle roedd pob aelod o'r cartref mewn gwaith yn fwy tebygol o fod wedi'u tanfeddiannu gan ddwy ystafell wely hefyd (40.2%).

Ffigur 12: Cartrefi â chymysgedd o'r tri grŵp cyflogaeth oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o statws cyflogaeth preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021.

Embed code

Nodiadau:
  1. Dim ond ar gyfer pobl 16 oed a throsodd mewn cartrefi y caiff statws cyflogaeth ei gynnwys.

    Lawrlwythwch y data
    .xlsx

Yng Nghymru a rhanbarthau Lloegr:

  • pan oedd pob aelod o'r cartref mewn gwaith, yn Llundain (6.9%), ac yna De-ddwyrain a Dwyrain Lloegr (2.5%), y gwelwyd y ganran fwyaf o orlenwi; mae'r ardaloedd hyn yn llai fforddiadwy na'r cyfartaledd ar gyfer Lloegr fel rheol, a hynny mewn perthynas â phrynu tai a rhentu'n breifat
  • Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â'r gyfran fwyaf o dai wedi'u tanfeddiannu (79.8%) yn y cartrefi hyn
  • pan oedd pob aelod o'r cartref yn ddi-waith, roedd dros hanner y rhain yn byw mewn cartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon mewn pum rhanbarth, sef Gorllewin Canolbarth Lloegr (52.1%), Dwyrain Lloegr (52.1%), Llundain (59.3%), De-ddwyrain Lloegr (52.7%) a De-orllewin Lloegr (51.5%)
  • pan oedd pob aelod o'r cartref yn anweithgar yn economaidd, roedd dros dri chwarter y cartrefi yn byw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu, heblaw Llundain (57.1%); Cymru oedd â'r ganran fwyaf (79.6%), ac yna Ddwyrain Canolbarth Lloegr (79.4%), tra bo 5.9% o'r cartrefi hyn yn byw mewn cartrefi gorlawn yn Llundain
  • Cartrefi lle roedd y preswylwyr yn gymysgedd o bobl a oedd mewn gwaith, yn ddi-waith ac yn anweithgar yn economaidd oedd â'r ganran uchaf o orlenwi ym mhob rhanbarth, gan amrywio o 42.7% yn Llundain i 15.8% yn Ne-orllewin Lloegr
Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfradd defnydd yn ôl gwlad enedigol

Cartrefi oedd â chymysgedd o breswylwyr a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig a'r tu allan i'r Deyrnas Unedig oedd fwyaf tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn yng Nghymru (7%) ac yn Lloegr 14.4%). Cartrefi lle cafodd pob preswylydd ei eni yn y Deyrnas Unedig oedd leiaf tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn (1.8% yng Nghymru a 2.3% yn Lloegr).

Mewn cartrefi lle cafodd pob preswylydd ei eni yn y Deyrnas Unedig yr oedd tanfeddiannu ar ei uchaf (77.6% yng Nghymru a 73.6% yn Lloegr). Hwn oedd yr unig gategori cyfuniad o wlad enedigol oedd â chanran uwch o dai â dwy ystafell wely neu fwy ohonynt yn fwy na'r nifer gofynnol (tanfeddiannu positif 2 neu fwy) na'r rheini ag un ystafell wely yn fwy na'r nifer gofynnol (tanfeddiannu positif 1), yng Nghymru ac yn Lloegr. Mewn cartrefi lle cafodd pob preswylydd ei eni y tu allan i'r Deyrnas Unedig yr oedd tanfeddiannu leiaf cyffredin (61.9% yng Nghymru a 52.7% yn Lloegr).

Cartrefi lle cafodd pob preswylydd ei eni y tu allan i'r Deyrnas Unedig oedd â'r gyfran uchaf a oedd yn byw mewn cartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon (34.1% yng Nghymru a 40.5% yn Lloegr).

Ffigur 13: Roedd cartrefi lle cafodd pob person ei eni yn y Deyrnas Unedig yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi wedi'u tanfeddiannu

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o wlad enedigol preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Yng Nghymru a rhanbarthau Lloegr:

  • mewn cartrefi â chymysgedd o breswylwyr a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig a'r tu allan i'r Deyrnas Unedig y gwelwyd y canrannau uchaf o gartrefi gorlawn, a hynny yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth yn Lloegr, gan amrywio o 6.5% yn Ne-orllewin Lloegr i 22.4% yn Llundain
  • mewn cartrefi lle cafodd pob preswylydd ei eni yn y Deyrnas Unedig y gwelwyd y ganran uchaf o gartrefi wedi'u tanfeddiannu, a hynny ym mhob ardal, gan amrywio o 57.9% yn Llundain i 78.2% yn Nwyrain Canolbarth Lloegr
  • mewn cartrefi lle cafodd pob preswylydd ei eni y tu allan i'r Deyrnas Unedig y gwelwyd y ganran uchaf o gartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon, a hynny ym mhob ardal, gan amrywio o 30.7% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 47.1% yn Llundain
Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfradd defnydd yn ôl cyfeiriadedd rhywiol

Cafodd cartrefi eu dosbarthu yn ôl cyfeiriadedd rhywiol aelodau o'r cartref 16 oed a throsodd, a ddewisodd ateb y cwestiwn gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n bwysig ystyried sut mae proffiliau oedran yn amrywio yn ôl cyfeiriadedd rhywiol, fel y dangosir yn ein herthygl Sexual orientation: age and sex, England and Wales: Census 2021, a all ddylanwadu ar gyfraddau defnydd ystafelloedd gwely.

Roedd cartrefi lle nododd yr holl breswylwyr a atebodd y cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu gyfeiriadedd rhywiol Arall (LHD+) yn llai tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn yng Nghymru (1.4%) ac yn Lloegr (3%), o gymharu â phob cartref (2.2% yng Nghymru, 4.4% yn Lloegr). Fodd bynnag, roedd cartrefi oedd â chymysgedd o breswylwyr Strêt neu Heterorywiol ac LHD+ bron dair gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn yng Nghymru (6.3%) a mwy na dwywaith yn fwy tebygol yn Lloegr (9%), o gymharu â phob cartref (2.2% yng Nghymru, 4.4% yn Lloegr).

Yng Nghymru ac yn Lloegr, cartrefi â chymysgedd o breswylwyr Strêt neu Heterorywiol ac LHD+ oedd â'r gyfran fwyaf o gartrefi a oedd wedi'u meddiannu yn unol â'r safon (35.2% yng Nghymru, 38.7% yn Lloegr), ac yna gartrefi lle nododd pob aelod gyfeiriadedd rhywiol LHD+ (30.4% yng Nghymru, 38.7% yn Lloegr).

Ffigur 14: Roedd cartrefi ag aelodau a nododd eu bod yn Strêt neu'n Heterorywiol ac aelodau a nododd eu bod yn LHD+ yn fwy tebygol o fod mewn cartrefi gorlawn

Canran y cartrefi yn ôl cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) a chyfuniad y cartref o gyfeiriadedd rhywiol preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021

Embed code

Nodiadau:
  1. Mae cyfuniad y cartref o gyfeiriadedd rhywiol preswylwyr yn dosbarthu cartrefi yn ôl cyfeiriadedd rhywiol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn. Gall fod rhai preswylwyr na wnaethant ateb y cwestiwn mewn unrhyw fath o gartref, yn ogystal â'r rheini mewn cartrefi lle na wnaeth unrhyw aelod ateb y cwestiwn.

    Lawrlwythwch y data
    .xlsx

Yng Nghymru a rhanbarthau Lloegr:

  • mewn cartrefi lle nododd yr aelodau gyfeiriadedd rhywiol Strêt neu Heterorywiol ac LHD+ y gwelwyd y canrannau uchaf o orlenwi, a hynny yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth yn Lloegr, gan amrywio o 6.3% yng Nghymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr i 15% yn Llundain

  • mewn cartrefi lle nododd pob aelod a atebodd y cwestiwn “Strêt neu Heterorywiol” y gwelwyd y canrannau uchaf o danfeddiannu, a hynny ym mhob rhanbarth yn Lloegr, gan amrywio o 49.7% yn Llundain i 75.9% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr. Fodd bynnag, gwelwyd canran uwch o danfeddiannu yng Nghymru mewn cartrefi lle na wnaeth pob aelod ymateb i'r cwestiwn am gyfeiriadedd rhywiol (77.1%)

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Gorlenwi a thanfeddiannu yn ôl nodweddion cartrefi, Cymru a Lloegr: Data Cyfrifiad 2021

Gorlenwi a thanfeddiannu yn ôl nodweddion cartrefi
Set ddata | Rhyddhawyd ar 25 Awst 2023
Cyfradd defnydd (ar gyfer ystafelloedd gwely) yn ôl nodweddion cartrefi, ar gyfer cartrefi â phreswylwyr arferol, Cymru a Lloegr, Cyfrifiad 2021. Mae data ar gael ar lefel genedlaethol, gwlad, rhanbarth, ardal awdurdod lleol, Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol ac Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, lle y bo'n bosibl.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Geirfa

Cartref

Diffinnir cartref fel:

  • un person sy’n byw ar ei ben ei hun, neu
  • grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta

Mae hyn yn cynnwys:

  • unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),
  • pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig

Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.

Cyfradd defnydd ystafelloedd gwely

P'un a yw'r llety mewn cartref yn orlawn, yn cynnwys y nifer delfrydol o bobl neu wedi'i danfeddiannu. Caiff hyn ei gyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar y cartref â nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael.

Caiff nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar gartref ei gyfrifo yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely, lle dylai'r bobl ganlynol gael eu hystafell wely eu hunain:

  • cwpwl sy'n oedolion
  • unrhyw oedolyn sy'n weddill (21 oed neu drosodd)
  • dau wryw (rhwng 10 ac 20 oed)
  • un gwryw (rhwng 10 ac 20 oed) ac un gwryw (9 oed neu'n iau), os oes odrif o wrywod rhwng 10 ac 20 oed
  • un gwryw rhwng 10 ac 20 oed os nad oes gwrywod rhwng 0 a 9 oed i rannu ag ef
  • ailadroddwch gamau 3-5 ar gyfer benywod
  • dau blentyn (9 oed neu'n iau) ni waeth beth fo'u rhyw
  • unrhyw blentyn sy'n weddill (9 oed neu'n iau)

Mae cyfradd defnydd o:

  • negatif 1 neu lai yn awgrymu bod llai o ystafelloedd gwely mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (gorlawn)
  • positif 1 neu fwy yn awgrymu bod mwy o ystafelloedd gwely mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (wedi'i danfeddiannu)
  • 0 yn awgrymu bod y nifer delfrydol o ystafelloedd gwely mewn cartref

Math o gartref

Y math o adeilad neu gartref a gaiff ei ddefnyddio neu sydd ar gael i unigolyn neu gartref.

Gallai hyn gynnwys:

  • tŷ neu fyngalo cyfan
  • fflat neu maisonette
  • cartref symudol neu dros dro, fel carafán

Tŷ neu fyngalo cyfan

Nid yw'r math hwn o eiddo wedi'i rannu yn fflatiau nac yn fan arall lle mae rhywun yn byw. Mae tri math o dŷ neu fyngalo cyfan.

Adeilad ar wahân

Nid oes unrhyw ran o'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth eiddo arall ond gall fod ynghlwm wrth garej.

Tŷ neu fyngalo semi

Mae'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth dŷ neu fyngalo arall ac yn rhannu wal gyffredin.

Mewn teras

Mae tŷ yng nghanol teras rhwng dau dŷ arall ac yn rhannu dwy wal gyffredin. Mae tŷ ar ben teras yn rhan o ddatblygiad teras ond dim ond un wal gyffredin a rennir.

Fflatiau a maisonettes

Fflat â dau lawr yw maisonette.

Preswylydd arferol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Deiliadaeth

P'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.

Gall cartref sy'n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:

  • yn berchen arno'n gyfan gwbl, lle mae aelodau o'r cartref yn berchen ar y cartref cyfan
  • yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad
  • yn berchen arno'n rhannol â chynllun rhanberchnogaeth

Gall cartref sy'n cael ei rentu gynnwys y canlynol:

  • wedi'i rentu'n breifat, er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiant gosod eiddo
  • wedi'i rentu'n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai
  • byw heb dalu rhent, sef pan na fydd aelodau cartref yn berchen ar y cartref a lle nad ydynt yn talu rhent i fyw yno, er enghraifft byw yn eiddo perthynas neu ffrind neu ofalwyr neu nanis sy’n byw gyda’r cleient

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Cyfuniad y cartref o oedran preswylwyr

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl oedran yr aelodau ar 21 Mawrth 2021. Gallai cartrefi gynnwys:

  • preswylwyr dan 15 oed
  • preswylwyr 16 i 64 oed
  • preswylwyr 65 oed a throsodd
  • cyfuniad o'r tri

Cyfansoddiad teuluol y cartref

Cartrefi yn ôl y cydberthnasau rhwng aelodau.

Caiff cartrefi un teulu eu dosbarthu yn ôl nifer y plant dibynnol a'r math o deulu (teulu pâr priod, cwpwl partneriaeth sifil neu gwpwl sy'n cyd-fyw, neu deulu un rhiant).

Caiff cartrefi eraill eu dosbarthu yn ôl nifer y bobl, nifer y plant dibynnol a ph'un a yw'r cartref yn cynnwys myfyrwyr yn unig neu bobl 66 oed a throsodd yn unig.

Grŵp ethnig

Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol. Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin Grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Cyfuniad y cartref o grŵp ethnig preswylwyr

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl y grwpiau ethnig a nodwyd gan aelodau'r cartref.

Crefydd

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio. Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'n cynnwys pobl a ddewisodd un o wyth opsiwn ymateb â blwch ticio, gan gynnwys “Dim crefydd”, ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Cyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd, a oedd yn wirfoddol. Gall y dosbarthiadau gynnwys preswylwyr na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd.

Cyfuniad y cartref o statws cyflogaeth preswylwyr

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl statws cyflogaeth aelodau o'r cartref a oedd yn 16 oed a throsodd rhwng 15 a 21 Mawrth 2021. Gallai cartrefi gynnwys:

  • preswylwyr a oedd mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • preswylwyr di-waith (y rhai a oedd yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn)
  • preswylwyr anweithgar yn economaidd (ddim mewn gwaith a heb chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021, neu ni allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos)
  • cyfuniad o'r tri

Mae enghreifftiau o breswylwyr anweithgar yn economaidd yn cynnwys pobl sydd wedi ymddeol, yn gofalu am y cartref neu am y teulu, myfyrwyr, pobl sy'n anabl neu'n sâl am gyfnod hir.

Cyfuniad y cartref o wlad enedigol preswylwyr

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl y wlad lle ganwyd aelodau o'r cartref. Mae hyn yn wahanol i genedligrwydd sef y wlad neu'r gwledydd lle gall person gael statws cyfreithiol, er nad yw'n byw yn y wlad honno o bosibl.

Mae adegau pan na chaiff rhywun ei eni mewn gwlad (er enghraifft, ar y môr). Yn y sefyllfa hon, caiff y wlad lle caiff yr enedigaeth ei chofrestru ei defnyddio fel arfer. Nid yw gwlad enedigol yn newid, ac eithrio o ganlyniad i newid ffiniau rhyngwladol.

LHD+

Talfyriad a ddefnyddir i gyfeirio at bobl sy'n nodi eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol ac opsiynau cyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol eraill (er enghraifft, anrhywiol).

Cyfeiriadedd rhywiol

Term cyffredinol yw cyfeiriadedd rhywiol sy'n cwmpasu hunaniaeth, atyniad ac ymddygiad rhywiol. Efallai na fydd y rhain yr un fath ar gyfer ymatebwyr unigol.

Er enghraifft, efallai y bydd rhywun mewn perthynas o'r naill ryw hefyd yn profi atyniad i bobl o'r un rhyw, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli bod yr ystadegau'n dangos sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiwn, yn hytrach na'u bod yn dangos pwy y mae ganddynt atyniad iddynt na'u cydberthnasau gwirioneddol.

Nid ydym wedi cynnwys categorïau cyfeiriadedd rhywiol unigol yn yr eirfa. Mae hyn oherwydd y gall fod gan ymatebwyr unigol safbwyntiau gwahanol ar yr union ystyr.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. Ansawdd a ffynonellau data

Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun manylaf o'r boblogaeth gyfan, a gofynnir yr un cwestiynau craidd i bawb ledled Cymru a Lloegr. Gall canlyniadau'r cyfrifiad fod yn fwy dibynadwy na chanlyniadau arolwg yn seiliedig ar sampl o'r boblogaeth, oherwydd bod y boblogaeth gyfan yn cael ei chynnwys. Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi rhoi statws Ystadegau Gwladol i allbynnau Cyfrifiad 2021, gan roi sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posibl i ddefnyddwyr.

Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol uchel iawn i Gyfrifiad 2021, sef 97%. Rydym yn sicrhau bod canlyniadau'r cyfrifiad yn adlewyrchu'r boblogaeth gyfan drwy ddefnyddio dulliau ystadegol i amcangyfrif nifer a nodweddion y bobl na chawsant eu cofnodi ar ymateb i'r cyfrifiad. Mae hyn yn golygu mai amcangyfrifon yw ystadegau'r cyfrifiad yn hytrach na chyfrifiadau syml o'r ymatebion, ac felly mae rhywfaint o ansicrwydd yn gysylltiedig â nhw. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau gwallau posibl.

Yn ogystal, rydym yn defnyddio mesurau rheoli datgelu ystadegol er mwyn diogelu cyfrinachedd ymatebwyr y cyfrifiad. Gall gwahaniaethau o ran y dulliau a ddefnyddiwyd i reoli datgelu ystadegol arwain at fân wahaniaethau yng nghyfansymiau'r data rhwng cynhyrchion y cyfrifiad. Gan ein bod yn talgrynnu'r holl ffigurau yn unigol, mae'n bosibl na fydd cyfansymiau tablau yn adio'n union.

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am wybodaeth am ansawdd data am dai yn ein methodoleg Housing quality information for Census 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Maximising the quality of Census 2021 population estimates.

Cymharu â datganiadau eraill y cyfrifiad

Mae datganiadau wedi'u cyhoeddi am y cyfrifiad sy'n ystyried cyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) gan ddefnyddio sail boblogaeth wahanol i'r datganiad hwn. Rydym yn canolbwyntio ar gartrefi, gan fod gwybodaeth am gyfradd defnydd (ystafelloedd gwely) yn cael ei chasglu ar lefel cartrefi. Mae datganiadau eraill yn canolbwyntio ar breswylwyr arferol (pobl o fewn cartrefi), sy'n cynnwys:

Dim ond data ar gyfer pobl 16 oed a throsodd mewn cartrefi a gaiff eu cynnwys mewn gwaith dadansoddi ar gyfuniad y cartref o statws cyflogaeth preswylwyr a chyfeiriadedd rhywiol. Mae hyn yn golygu na fydd y sail boblogaeth ar gyfer y newidynnau hyn yn cynnwys cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 15 oed ac iau (cartrefi â phlant yn unig).

Cartrefi â phlant yn unig

Yn y dadansoddiad hwn, nid ydym wedi cynnwys cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 15 oed neu'n iau wrth edrych ar gyfuniad y cartref o oedran preswylwyr. Mae hyn oherwydd bod rhai achosion pan fydd y data yn dangos nifer uwch na'r disgwyl o gartrefi â phlant yn unig. Darllenwch ein methodoleg Demography and migration quality information for Census 2021 i gael gwybodaeth am ansawdd.

Cwestiynau am grŵp ethnig a chrefydd

Roedd y cwestiwn am grefydd yn y cyfrifiad yn wirfoddol. I weld y cwestiynau am grŵp ethnig a chrefydd ar holiadur y cartref neu'r holiadur i unigolion, ewch i'n tudalen we am holiaduron papur Cyfrifiad 2021. I gael gwybodaeth am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am grŵp ethnig a chrefydd o Gyfrifiad 2021, darllenwch ein methodoleg Ethnic group, national identity, language, and religion quality information for Census 2021.

Gall proffiliau oedran a rhyw amrywiol grwpiau crefyddol neu grwpiau ethnig ddylanwadu ar y cyfraddau defnydd (ystafelloedd gwely) a gaiff eu trafod yn y cyhoeddiad hwn (darllenwch ein herthygl Religion by age and sex, England and Wales: Census 2021 a'n herthygl Ethnic group by age and sex, England and Wales).

Newidynnau'r farchnad lafur

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym a digynsail, ac mae'n bosibl fod hyn wedi effeithio ar y ffordd yr ymatebodd rhai pobl i'r cwestiynau am y farchnad lafur yn y cyfrifiad. Bydd amcangyfrifon o'r cyfrifiad hefyd yn wahanol i'r rhai a gasglwyd yn yr Arolwg o'r Llafurlu, oherwydd amrywiaeth o wahaniaethau cysyniadol rhwng y ddwy ffynhonnell. Darllenwch ein herthygl Comparing Census 2021 and Labour Force Survey estimates of the labour market, England and Wales: 13 March 2021 i gael rhagor o wybodaeth am ddehongli data'r cyfrifiad am y farchnad lafur.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Dolenni cysylltiedig

Housing: Census 2021 in England and Wales
Tudalen we | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Data a gwybodaeth ategol am dai o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Religion by housing, health, employment, and education, England and Wales: Census 2021
Erthygl | Rhyddhawyd ar 24 Mawrth 2023
Gwahaniaethau mewn canlyniadau bywyd ar draws yr wyth grŵp crefyddol â "blwch ticio" mewn perthynas ag iechyd, tai, cyflogaeth ac addysg, ar gyfer Cymru a Lloegr gyda'i gilydd.

Ethnic group differences in health, employment, education and housing shown in England and Wales' Census 2021
Tudalen we | Rhyddhawyd ar 15 Mawrth 2023
Amrywiadau o ran iechyd, anabledd, gorlenwi a pherchentyaeth, yn ogystal â lefelau o addysg a chyflogaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

16. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 25 Awst 2023, gwefan y SYG, bwletin ystadegol, Gorlenwi a thanfeddiannu yn ôl nodweddion cartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Erthygl

Sarah Bruce, Nikki Bowers and Tony Wilkins
better.info@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444103