1. Prif bwyntiau

  • Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn asesu buddiannau Cyfrifiad 2021 i ddefnyddwyr o lywodraeth ganolog a llywodraeth leol, y sector preifat, a'r sector gwirfoddol a chymunedol.

  • Rydym eisoes wedi cynnal ymarfer i gyfrifo buddiannau a ragwelwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021.

  • Rydym yn bwriadu defnyddio'r un dulliau i asesu'r buddiannau a wireddwyd lle bynnag y bo modd, fel y gellir cymharu'r canlyniadau.

  • Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a gyfrannodd at y gwaith o ddatblygu'r buddiannau a ragwelwyd, ynghyd â sail rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol.

  • Byddwn yn defnyddio grwpiau ffocws, cyfarfodydd ac arolygon i ofyn i randdeiliaid a yw'r defnyddiau a'r tybiaethau a wnaed yn yr ymarfer rhagweld yn berthnasol o hyd, ac i nodi unrhyw ddefnyddiau newydd.

  • Byddwn yn rhannu ein hamcangyfrifon cychwynnol â rhanddeiliaid a chyrff cyffredinol er mwyn sicrhau eu bod yn rhesymol ac yn gynrychioliadol.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ein dull o gasglu data a chyfrifo buddiannau

Rydym wedi amlinellu ein dull gweithredu bwriadedig yn ein herthygl ar Asesu buddiannau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr: 2021. Er mwyn datblygu ein dull gweithredu, adolygwyd adroddiad gwerthuso buddiannau Cyfrifiad 2011, a gwaith blaenorol i lunio rhagolwg o fuddiannau data Cyfrifiad 2021. Edrychwyd ar ymarferion asesu buddiannau tebyg, gan gynnwys Valuing the census 2011 Statistics New Zealand, Value of the New Zealand census: August 2021 Statistics New Zealand a Value of the Census 2019 Australian Bureau of Statistics.

Roedd ein cyhoeddiad blaenorol yn cynnwys crynodeb o'r dulliau a ddefnyddiwyd i ddatblygu rhagolygon ar gyfer buddiannau disgwyliedig Cyfrifiad 2021. Rydym yn bwriadu defnyddio'r dulliau a ddefnyddiwyd i lunio'r rhagolwg, fel y gallwn ddilysu'r buddiannau a ragwelwyd a deall a ydynt wedi'u gwireddu. Drwy ddefnyddio'r un dulliau i asesu'r buddiannau, byddwn yn helpu i sicrhau bod modd cymharu'r canlyniadau â'r buddiannau a ragwelwyd. Mae ein dull gweithredu hefyd yn ystyried yr adnoddau sydd ar gael i gasglu ac asesu data.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Adolygu'r dull

Cynhaliwyd proses adolygu fewnol ac allanol ar y dull a ddisgrifiwyd. Ar ôl cael adborth, rydym wedi ychwanegu rhanddeiliaid allweddol a all wella ein dealltwriaeth o werth data Cyfrifiad 2021 i ddefnyddwyr academaidd. Rydym hefyd yn archwilio'r modd y gallwn ychwanegu at y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu gan gynrychiolwyr o'r sector preifat a dilysu'r wybodaeth honno, gan ein galluogi i ddeall a ellir graddio'r data at raddfa eu sector.

Rydym wedi ychwanegu adolygiad o fodelau sy'n hanfodol i fusnes a ddefnyddir mewn llywodraeth ganolog i'n helpu i fapio'r defnydd a wneir o ddata Cyfrifiad 2021 yn well. Rydym hefyd wedi cynnwys cwestiynau penodol am yr hyn fyddai'n digwydd heb ddata'r cyfrifiad, a fydd yn ein helpu i lunio sefyllfa wrthffeithiol er mwyn gallu deall yn well sut mae buddiannau yn codi.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Nodi ein rhanddeiliaid

Nodwyd rhestr o ddefnyddwyr y cyfrifiad y byddwn yn cysylltu â nhw i gael tystiolaeth er mwyn llywio ein hasesiad o fuddiannau data Cyfrifiad 2021: ein rhanddeiliaid cyfranogol. Mae hyn yn cynnwys defnyddwyr a fu'n rhan o asesiadau o fuddiannau yn flaenorol, defnyddwyr sydd eisoes yn ymgysylltu â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) neu sy'n hysbys iddi a defnyddwyr ychwanegol a nodwyd o ymchwil desg. Rydym wedi blaenoriaethu rhanddeiliaid yn dri grŵp, yn ôl eu cyfraniad blaenorol i ddatblygu'r rhagolwg, a faint o dystiolaeth fesuradwy rydym yn disgwyl iddynt ei darparu. Y tri grŵp yw:

  • blaenoriaeth buddiannau un, sy'n cynnwys ymgysylltu blaenorol â dulliau mesur buddiannau; rhaid i ni ymgysylltu â'r rhanddeiliaid hyn fel y gallwn ddilysu a yw'r buddiannau a ragwelwyd wedi'u gwireddu ar eu cyfer

  • blaenoriaeth buddiannau dau, nad yw'n rhan o ddull mesur buddiannau blaenorol ond sy'n debygol o gyfrannu tystiolaeth fesuradwy neu dystiolaeth ansoddol werthfawr iawn o fuddiannau

  • blaenoriaeth buddiannau tri, a all gyfrannu rhywfaint o dystiolaeth neu gael ei chofnodi fel rhan o grwpiau eraill

Mae ein rhestr derfynol o ddefnyddwyr hefyd yn ystyried ein gallu i ymgysylltu, a hefyd sicrhau cwmpas da o'r rhai sy'n defnyddio'r cyfrifiad ym mhob pwnc. Mae'r rhestr lawn o randdeiliaid ar gael ar gais.

Rydym wedi blaenoriaethu buddiannau mesuradwy, a fydd yn ddefnyddiol wrth gyfrifo'r buddiannau. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth buddiannau na ellir eu mesur yn uniongyrchol a bwriadwn nodi a disgrifio'r rhain yn ein hadroddiad terfynol. Byddwn hefyd yn archwilio a ellir cyfrif am y "gynffon hir" hon o hyd wrth gyfrifo'r buddiannau.

Drwy fynd ati'n fwriadol i ddewis rhanddeiliaid sydd wedi ymwneud neu sy'n parhau i ymwneud â'r SYG mae'n bosibl y byddant yn fwy tebygol o fod yn barod i gymryd rhan yn yr ymarfer hwn. Gallant hefyd fod yn brofiadol ac yn wybodus ynghylch sut y gellir defnyddio data'r cyfrifiad. Fodd bynnag, gall hefyd olygu eu bod yn fwy tebygol o ddefnyddio data SYG o'u cymharu â sefydliadau sy'n cael llai o gyswllt â hi, felly efallai y byddant yn llai cynrychioliadol o'r sectorau y maent yn eu cynrychioli. Gall ein defnydd o arolygon â'n sail rhanddeiliaid ehangach helpu i liniaru hyn. Rydym yn parhau i archwilio'r modd y gallwn fynd i'r afael â hyn ymhellach pan fyddwn yn ceisio graddio ein hamcangyfrifon cychwynnol at raddfa sectorau ehangach.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Casglu tystiolaeth gan randdeiliaid

Rydym yn bwriadu ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy grwpiau ffocws, cyfarfodydd, arolygon ar-lein a gohebiaeth. Rydym wedi nodi ein dulliau gweithredu cyntaf disgwyliedig, a'r ail rai, yn ôl grŵp rhanddeiliaid a blaenoriaeth. 

Ar gyfer pob rhanddeiliad blaenoriaeth un, byddwn yn sicrhau bod y data yn cael eu defnyddio yn ôl y bwriad, ac yn dilysu'r tybiaethau a'r gwerthoedd a ddefnyddir yn y rhagolygon. Byddwn hefyd yn cadarnhau a oes unrhyw ddefnyddiau neu fuddiannau newydd o ddata Cyfrifiad 2021 na chawsant eu cynnwys yn y rhagolwg o fuddiannau.  

Ar gyfer pob rhanddeiliad arall, byddwn yn dilysu'r defnyddiau a wneir o ddata'r cyfrifiad rydym yn ymwybodol ohonynt ac yn nodi unrhyw ddefnyddiau newydd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i ddatblygu tybiaethau er mwyn llywio ein cyfrifiadau.

Pan gaiff defnydd o ddata Cyfrifiad 2021 ei nodi, byddwn hefyd yn archwilio'r hyn y byddai rhanddeiliaid yn ei wneud heb ddata Cyfrifiad 2021. Bydd hyn yn ein galluogi i lunio sefyllfa wrthffeithiol er mwyn deall sut y caiff unrhyw fuddiannau o ddata'r cyfrifiad eu creu.

Llywodraeth leol

Rydym yn disgwyl y bydd y mathau o fuddiannau sy'n deillio o ddata'r cyfrifiad yn gyffredin ymhlith awdurdodau lleol (ALlau) (neu, o leiaf ALlau o'r un haen a natur wledig). Mae gennym ddealltwriaeth dda o ddefnyddiau data'r cyfrifiad mewn llywodraeth leol, yn seiliedig ar y buddiannau a ragwelwyd ac ymgysylltu parhaus SYG â defnyddwyr. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw dystiolaeth a rennir yn sensitif i fusnesau. Felly, rydym yn bwriadu cynnal grŵp ffocws. Bydd hyn yn cynnwys ALlau blaenoriaeth un, ac ALlau blaenoriaeth dau, a ddewisir i roi cwmpas daearyddol da a chynrychiolaeth ehangach ymhlith haenau ALl gwahanol (fel awdurdodau unedol a chynghorau dosbarth).

Anfonir pecyn gwybodaeth cyn y grŵp i gyfranogwyr o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod, yn amlinellu'r tybiaethau a'r gwerthoedd a ddefnyddiwyd yn y buddiannau a ragwelwyd. Bydd hyn yn rhoi amser i ystyried y wybodaeth ac i gasglu unrhyw dystiolaeth berthnasol. 

Byddwn yn rhoi unrhyw eglurhad neu'n gwneud unrhyw waith dilynol drwy ohebiaeth neu gyfarfod. Caiff nodyn o'r cyfarfod ei rannu â chyfranogwyr i gadarnhau ein bod yn deall yr hyn a drafodwyd. Bwriadwn gynnwys y data a gesglir yn y model buddiannau a llunio amcangyfrif cychwynnol o'r buddiannau sy'n gysylltiedig â phob defnydd. Caiff hwn ei rannu â chyfranogwyr y grŵp ffocws i'w adolygu.

Pan fydd yr amcangyfrifon cychwynnol wedi'u hadolygu gan y cyfranogwyr a phan fydd unrhyw adborth wedi'i ymgorffori, byddwn yn rhannu'r canfyddiadau â'r holl AALlau eraill a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bwriadwn ddefnyddio arolwg i gadarnhau bod buddiannau a gyfrifir yn rhesymol ac yn gynrychioliadol, a chasglu gwybodaeth am ddefnyddiau a gollwyd.

Llywodraeth ganolog

Mae gennym ddealltwriaeth dda o ddefnyddiau data'r cyfrifiad yn adrannau llywodraeth ganolog blaenoriaeth un. Mae'n bosibl bod adrannau yn gwneud defnydd tebyg o ddata'r cyfrifiad ond er mwyn deall y buddiannau a nodir yn llawn, rydym yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr o bob adran ar wahân.

Rhoddir pecyn gwybodaeth i gyfranogwyr o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod, yn amlinellu'r defnyddiau, y tybiaethau a'r gwerthoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer y buddiannau a ragwelwyd.  Gofynnir i'r cyfranogwyr ystyried a yw'r gweithgaredd yn dal i ddibynnu ar ddata'r cyfrifiad. Gofynnir iddynt adolygu a dilysu pob tybiaeth ac ystyried a oes unrhyw ddefnyddiau ychwanegol nad ydynt wedi'u nodi eto.

Byddwn yn rhoi unrhyw eglurhad neu'n gwneud unrhyw waith dilynol drwy ohebiaeth neu gyfarfod. Caiff nodyn o'r cyfarfod ei rannu â chyfranogwyr i gadarnhau ein bod yn deall yr hyn a drafodwyd. Bwriadwn gynnwys y data a gesglir yn y model buddiannau a llunio amcangyfrif cychwynnol o'r buddiannau sy'n gysylltiedig â phob defnydd. Caiff hwn ei rannu â'r adran berthnasol i'w adolygu.

Mae ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae rhanddeiliaid llywodraeth ganolog blaenoriaeth dau a thri yn defnyddio data'r cyfrifiad yn fwy cyfyngedig felly, fel cam cychwynnol, bwriadwn gynnal arolwg i gael mwy o wybodaeth am eu defnyddiau. Bydd yr arolwg hwn yn canfod defnyddiau o ddata'r cyfrifiad a gwybodaeth a fydd yn llywio tybiaethau i'w defnyddio wrth gyfrifo buddiannau.

Bydd unrhyw waith dilynol yn cael ei wneud drwy gyfarfod a gohebiaeth os caiff buddiannau mesuradwy eu nodi ac os bydd angen rhagor o wybodaeth. Yna, byddwn yn cynnwys gwybodaeth yn y model buddiannau ac yn rhannu amcangyfrifon cychwynnol o fuddiannau â'r adran i'w hadolygu, fel y disgrifiwyd.

Y sector preifat

Er mwyn llunio'r rhagolwg o fuddiannau aethom ati i ymgysylltu ag un cynrychiolydd o ddiwydiannau y deellir eu bod yn defnyddio data'r cyfrifiad. Dewiswyd cynrychiolwyr o sefydliad aelodaeth o ddefnyddwyr masnachol o setiau data demograffig y llywodraeth, gan gynnwys:

  • manwerthu nwyddau groser

  • hamdden

  • eiddo tiriog

  • ymchwil i'r farchnad (gan gynnwys dadansoddeg Data Mawr ac ailwerthwyr geo-ddemograffig)  

  • cyfleustodau

  • bancio

  • yswiriant

  • ymgynghoriaeth reoli

  • hysbysebu

  • marchnata uniongyrchol

Mae gennym ddealltwriaeth gymharol dda o'r ffordd y mae grŵp rhanddeiliaid sector preifat blaenoriaeth un yn defnyddio data'r cyfrifiad. Mae hyn yn seiliedig ar y wybodaeth yn y cyfrifiadau a ragwelwyd, ynghyd â'n prosesau ymgysylltu parhaus â defnyddwyr. Fodd bynnag, rhagwelwn y bydd rhai sectorau wedi gweld newid sylweddol ers llunio'r rhagolygon. Felly, rydym o'r farn y bydd angen i ni gael sgyrsiau manwl â rhanddeiliaid blaenoriaeth un i archwilio'r buddiannau. Oherwydd natur y sgyrsiau hyn a allai fod yn sensitif i fusnesau, cânt eu cynnal fel cyfarfodydd ar wahân.

Rhoddir pecyn gwybodaeth cyn y grŵp i gyfranogwyr o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod, yn amlinellu'r defnyddiau, y tybiaethau a'r gwerthoedd a ddefnyddiwyd i greu'r buddiannau a ragwelwyd. Bydd hyn yn rhoi amser iddynt ystyried y wybodaeth a chasglu unrhyw dystiolaeth berthnasol.

Ar gyfer pob sector, byddwn yn ceisio deall a yw'r penderfyniadau busnes yn dal i ddibynnu ar ddata'r cyfrifiad, ac a yw'r tybiaethau a gymhwyswyd dal yn rhesymol. Byddwn hefyd yn gofyn am unrhyw ddefnyddiau newydd ar gyfer data'r cyfrifiad.

Lle caiff buddiannau mesuradwy eu nodi a lle mae angen rhagor o wybodaeth, byddwn yn gwneud gwaith dilynol drwy gyfarfod a/neu ohebiaeth.

Ar gyfer sefydliadau blaenoriaeth dau a thri, lle mae gennym lai o wybodaeth flaenorol am y ffordd y maent yn defnyddio data'r cyfrifiad, fel cam cychwynnol bwriadwn gynnal arolwg i gasglu gwybodaeth gychwynnol.

Byddwn yn gwneud gwaith dilynol drwy gyfarfod neu ohebiaeth ag unrhyw sefydliad blaenoriaeth dau neu dri sy'n rhoi tystiolaeth o fuddiannau mesuradwy os nad oes digon o wybodaeth wedi'i chynnwys yn yr ymateb i'r arolwg.

Byddwn yn cynnwys gwybodaeth yn y model buddiannau ac yn rhannu amcangyfrifon cychwynnol o fuddiannau â rhanddeiliaid perthnasol i'w hadolygu.

Pan fydd amcangyfrifon cychwynnol wedi'u hadolygu gan y cyfranogwyr a phan fydd unrhyw adborth wedi'i ymgorffori, byddwn yn cynyddu'r amcangyfrifon cychwynnol i adlewyrchu'r sector. Byddwn yn rhannu'r amcangyfrifon cychwynnol a'r amcangyfrifon wedi'u cynyddu ar gyfer y sector preifat â'r sefydliad aelodaeth o ddefnyddwyr masnachol o setiau data demograffig y llywodraeth i'w hadolygu.

Y sector gwirfoddol a chymunedol

Ni chafodd y buddiannau i'r sector gwirfoddol a chymunedol, na'r byd academaidd, eu hasesu'n uniongyrchol yn y rhagolwg o fuddiannau. Rydym yn bwriadu dilyn y dull gweithredu a nodwyd ar gyfer sefydliadau'r sector preifat blaenoriaeth dau a thri.

Lle caiff buddiannau mesuradwy eu nodi a lle mae angen rhagor o wybodaeth i ddatblygu tybiaethau, byddwn yn gwneud gwaith dilynol drwy gyfarfod a/neu ohebiaeth. Yna, byddwn yn cynnwys gwybodaeth yn y model buddiannau ac yn rhannu amcangyfrifon cychwynnol o fuddiannau â'r cyfrannwr.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyfrifo amcangyfrifon cychwynnol o fuddiannau

Ffynonellau ychwanegol o ddata

Roedd y rhagolygon o fuddiannau yn defnyddio data cyhoeddedig, gan gynnwys cyllidebau ac adroddiadau allanol, i lywio'r tybiaethau a wnaed. Bwriadwn gasglu'r fersiwn ddiweddaraf o'r wybodaeth hon lle mae ar gael. Os na fydd fersiwn fwy diweddar o adroddiad ar gael, byddwn yn ceisio dod o hyd i ffynhonnell gyfatebol.

Caiff rhai o benderfyniadau'r llywodraeth eu harwain gan fodelau yn bennaf. Mae pob un o adrannau'r llywodraeth yn cynnal rhestr o fodelau sy'n hanfodol i fusnes ac mae'n ofynnol iddynt ddogfennu'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y modelau hyn. Yn ogystal ag ymgysylltu'n uniongyrchol ag adrannau'r llywodraeth, byddwn yn adolygu gwybodaeth gyhoeddedig a gynhwysir mewn modelau sy'n hanfodol i fusnes er mwyn nodi'r prif barthau sy'n seiliedig ar allbynnau'r cyfrifiad.

Llywodraeth leol – llywio penderfyniadau o ran gwariant

Er mwyn deall gwerth data i lywio penderfyniadau awdurdodau lleol o ran gwariant, gwnaed tybiaeth yn adroddiad The Value of Big Data and the Internet of Things to the UK Economy gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (PDF, 5,007 KB). Tybiwyd bod llywodraeth leol yn cyfrif am 50% o'r gwerth hwn. Yna, addaswyd hwn ar gyfer Cymru a Lloegr a'i gyfrif fel canran o gyfanswm y gwariant cyfalaf a refeniw ar gategorïau perthnasol, yn ôl awdurdodau lleol (ALlau) yng Nghymru a Lloegr, y flwyddyn.

Er mwyn llywio'r buddiannau a ragwelwyd, gofynnwyd i bum ALl yng Nghymru a Lloegr raddio meysydd perthnasol o fuddsoddiad cyfalaf a refeniw yn ôl pa mor ddibynnol yr oeddent ar ddata'r cyfrifiad.Roedd hyn yn pennu faint o werth y data y gellid ei briodoli i'r cyfrifiad.

Byddwn yn cadarnhau ag ALlau blaenoriaeth un a dau bod pwysigrwydd y cyfrifiad ar gyfer pob maes o wariant yn briodol o hyd. Byddwn yn diweddaru cyfrifiadau â'r ffigurau buddsoddiad cyfalaf a refeniw diweddaraf a gyhoeddwyd. Byddwn yn ceisio diweddaru gwerth Data Mawr yn gyffredinol drwy ddod o hyd i ffynhonnell fwy diweddar. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn cynyddu'r gwerth gwreiddiol yn unol â chwyddiant.

Pan fydd cyfranogwyr wedi adolygu ein hamcangyfrifon cychwynnol o fuddiannau, byddwn yn gwahodd yr holl ALlau eraill i adolygu'r asesiad er mwyn cadarnhau ei fod yn cynrychioli'r buddiannau a wireddwyd ganddynt. Gwneir hyn drwy arolwg electronig.

Llywodraeth ganolog – dyrannu cyllid

Yn flaenorol, roedd adrannau'r llywodraeth yn defnyddio eu gwaith modelu i asesu'r achosion o ddyrannu is-optimaidd a fyddai'n deillio o ddefnyddio'r data gorau nesaf sydd ar gael (yn hytrach na data'r cyfrifiad) i lywio'r gwaith o ddyrannu cyllid.Gwnaethom ddefnyddio hyn i gyfrifo'r golled net i les, er enghraifft beth fyddai'r golled i les pe bai punt yn cael ei gwario lle nad oes ei hangen, o gymharu â ble mae ei hangen. Yn seiliedig ar hyn, tybiwyd, pan ddefnyddir amcangyfrifon o ddata'r cyfrifiad i lywio'r gwaith o ddyrannu cyllid, fod ennill net o 0.015% o'r cyfanswm a ddyrannwyd i les. Ar gyfer ennill net i les pan ddefnyddir data nodwedd y cyfrifiad i lywio'r gwaith o ddyrannu cyllid, tybir bod ennill net o 0.053% o'r cyfanswm a ddyrannwyd i les.

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddilysu bod y cyllid ar gael o hyd a'i fod yn dibynnu ar ddata'r cyfrifiad. Byddwn yn ceisio deall a fu unrhyw newidiadau yn y fformiwlâu cyllido ac a yw'r tybiaethau'n rhesymol o hyd. Os nad ydynt, byddwn yn addasu'r tybiaethau yn ôl yr angen. Byddwn yn archwilio â rhanddeiliaid ddichonoldeb modelu â data Cyfrifiad 2021 a'r ffynhonnell ddata orau nesaf i ganfod y gwahaniaeth yn y cyllid a ddyrennir. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd angen i ni ddibynnu ar farn arbenigol i amcangyfrif newidiadau i'r gwahaniaeth yn y dyraniad ers yr ymarfer blaenorol. Byddai'r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar yr hyn a wyddys am ddata Cyfrifiad 2021, o gymharu â'r ffynhonnell ddata orau nesaf.

Llywodraeth ganolog – ymchwil polisi

Gall y data ar lefel fanylach a ddarperir gan y cyfrifiad wella cynhyrchiant y broses o lunio polisïau drwy:

  • leihau'r amser a dreulir gan ddadansoddwyr

  • lleihau costau casglu data a chael gafael ar ddata masnachol

  • lleihau risg 

Yn y buddiannau a ragwelwyd, defnyddiwyd cost ymchwil a gomisiynwyd yn seiliedig ar ddata'r cyfrifiad a data sy'n deillio o'r cyfrifiad yn lle gwerth yr ymchwil, os na fydd gwybodaeth arall ar gael. Os byddai angen i'r adran wneud ei gwaith ymchwil ei hun neu ailadeiladu ei modelau heb ddata'r cyfrifiad, tybir mai'r buddiannau oedd cost gwneud hynny.

Rydym yn disgwyl defnyddio'r un fethodoleg i asesu'r buddiannau a wireddwyd.  Gall gwybodaeth sy'n ein helpu i greu sefyllfa wrtheffeithiol ein helpu i allu deall a chyfrifo'r buddiannau yn well yn hytrach na dibynnu ar gost ymchwil yn lle hynny.

Llywodraeth ganolog – buddsoddiadau seiliedig ar dystiolaeth 

Gwnaethom asesu'r oedi disgwyliedig i brosiectau, fel cynlluniau trafnidiaeth mawr, ac amcangyfrif y costau cysylltiedig pe na fyddai data'r cyfrifiad ar gael.

Rydym yn disgwyl defnyddio'r un fethodoleg i asesu'r buddiannau a wireddwyd.

Y sector preifat

Gellir priodoli rhai buddiannau i'r sector preifat yn uniongyrchol i ddata'r cyfrifiad. Mewn achosion eraill, mae data'r cyfrifiad yn fewnbwn canolraddol i ailwerthwyr geo-ddemograffig.Gwnaethom dybio yn ein rhagolwg o fuddiannau, yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan y sector, y gellir priodoli 20% o unrhyw fudd a geir o ddefnyddio meddalwedd geo-ddemograffig fasnachol i ddata'r cyfrifiad.

Er mwyn llywio ein rhagolwg o fuddiannau, aethom ati i ymgysylltu ag un cynrychiolydd o bob diwydiant, a ddewiswyd o sefydliad aelodaeth o ddefnyddwyr masnachol o setiau data demograffig y llywodraeth. Amcangyfrifwyd gwerth penderfyniad busnes o dystiolaeth o'r ymgysylltiad hwn a/neu o dystiolaeth a gyhoeddwyd, fel Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), sef y gwerth a grëir gan unrhyw uned sy'n ymgysylltu â'r broses o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau) ar gyfer sector. Gwnaethom ofyn i randdeiliaid amcangyfrif cyfran gwerth y penderfyniad y gellid ei phriodoli i'r data. Gwnaethom ofyn i randdeiliaid amcangyfrif cyfran gwerth y penderfyniad y gellid ei phriodoli i'r data. Yna gwnaethant amcangyfrif faint o hyn oedd yn ddata uniongyrchol y cyfrifiad, a faint oedd yn feddalwedd geo-ddemograffig a oedd yn seiliedig ar y cyfrifiad.

Rydym yn disgwyl defnyddio'r un dull eto. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu tybiaethau a gwerthoedd yn ofalus ar y cyd â rhanddeiliaid ac yn addasu dulliau er mwyn adlewyrchu newid mewn amgylchiadau.

Y sector gwirfoddol

Ni chafodd y buddiannau i'r sector gwirfoddol a chymunedol, na'r byd academaidd, eu hasesu'n uniongyrchol yn yr ymarfer rhagweld felly nid oes methodoleg yn bodoli y gellir ei defnyddio eto.  Fodd bynnag, rhagwelwn y bydd y buddiannau mwyaf mesuradwy yn debygol o gael eu cynnwys yn y prif gategorïau o fuddiannau a nodwyd yn yr ymarfer rhagweld, fel:

  • ymchwil polisi

  • llywio penderfyniadau o ran busnes neu wariant

  • buddsoddi neu ddyrannu cyllid yn seiliedig ar dystiolaeth

Felly, wrth gyfrifo'r buddiannau byddem  yn defnyddio'r dulliau a ddefnyddir eisoes ar gyfer sectorau eraill. Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu a dilysu unrhyw dybiaethau.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Nodi newidiadau i fuddiannau a ragwelwyd a buddiannau newydd

Cynhaliwyd yr ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid diweddaraf i ddatblygu'r buddiannau a ragwelwyd yn 2016 a 2017. Roedd rhai o'r tybiaethau yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yn 2013. Gall fod sawl ffactor wedi effeithio ar ddefnyddiau a buddiannau data'r cyfrifiad ers i'r rhagolygon hyn gael eu datblygu. Ymysg y rhain mae pandemig y coronafeirws (COVID-19), Brexit a'r economi werdd sy'n tyfu. Wrth ymgysylltu, byddwn yn canfod a oes unrhyw fuddiannau presennol yn y rhagolwg wedi newid neu a oes rhai nad ydynt yn gymwys mwyach. 

Byddwn hefyd yn ceisio nodi defnyddiau o ddata Cyfrifiad 2021 sydd wedi dod i'r amlwg ers hynny, neu nas nodwyd yn y rhagolwg o fuddiannau. Gall y rhain fod gan randdeiliaid a gymerodd ran yn yr ymarfer rhagweld sydd wedi dechrau defnyddio data'r cyfrifiad mewn ffyrdd ychwanegol.  Gallant hefyd fod wedi dod o'n sail rhanddeiliaid ehangach.

Yn ogystal â'n samplau Microdata Cyfrifiad 2021 a data a gyfunwyd, bydd data Cyfrifiad 2021 ar gael i ddefnyddwyr mewn ffyrdd newydd i gyfrifiadau blaenorol. Bydd y Gwasanaeth Data Integredig yn sicrhau bod data sylfaenol o Gyfrifiad 2021 ar gael yn gynt, mewn fformatau mwy hygyrch a rhyngymarferol, fel y gall canlyniadau ystadegol lywio gwneuthurwyr polisi yn well. Bydd y data hyn ar gael ar ffurf fanylach, flynyddoedd yn gynt, o gymharu â chyfrifiadau blaenorol, a fydd yn cynyddu'r defnydd a wneir o'r data yn sylweddol a'r buddiannau a daw yn sgil hynny.

Fel gyda'n dull gweithredu ar gyfer y sector gwirfoddol, rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o'r buddiannau newydd yn cael eu cynnwys o dan y categorïau a nodwyd eisoes.  Byddwn yn mabwysiadu dull tebyg ar gyfer buddiannau cymaradwy.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Addasiadau

Mae rhai asesiadau rhyngwladol o fuddiannau wedi cynnwys amcangyfrif o werth ariannol cynffon hir buddiannau llai o'r cyfrifiad na ellir eu mesur yn uniongyrchol. Byddwn yn ystyried hyn, yn seiliedig ar ganfyddiadau ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Gwnaethom dybio yn y rhagolwg o fuddiannau bod gwerth data'r cyfrifiad yn lleihau ar gyfradd o 5% y flwyddyn ar sail llinell syth. Rydym yn disgwyl cymhwyso'r dybiaeth hon mewn ffordd debyg. Byddwn yn adolygu hyn os bydd tystiolaeth a gesglir gan ddefnyddwyr yn awgrymu bod ansawdd disgwyliedig y data wedi newid dros amser.

Byddwn yn asesu graddau'r gogwydd optimistiaeth ar gyfer pob budd ac yn addasu ein canfyddiadau yn unol â hynny. Byddwn hefyd yn addasu ar gyfer sensitifrwydd a disgowntio.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Caiff dolen i'r papur dulliau manwl a gyflwynwyd i'r Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol ei hychwanegu i'r adran hon pan gaiff ei chyhoeddi ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Asesu buddiannau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr
Erthygl | Rhyddhawyd ar 28 Medi 2022
Sut mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn bwriadu asesu buddiannau data Cyfrifiad 2021 i ddefnyddwyr er mwyn deall gwerth Cyfrifiad 2021.

Ynglŷn â'r cyfrifiad
Erthygl | Rhyddhawyd 19 Gorffennaf 2022
Beth yw'r cyfrifiad a pham mae'n bwysig i ni.

Cynlluniau datganiadau
Erthygl | Rhyddhawyd 19 Gorffennaf 2022
Ein cynlluniau ar gyfer rhyddhau data a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021, gan gynnwys canlyniadau cyntaf, crynodebau pwnc, data amlamryweb a data arbenigol.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Rhyddhawyd 28 Mehefin 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y fethodoleg hon

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd 2 Rhagfyr 2022, gwefan SYG, methodoleg, Dulliau o asesu buddiannau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Methodoleg

Kerry Earnshaw
pop.info@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444661