1. Cyflwyniad

Astudiaeth o amgylchiadau cyflogaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig yw'r Arolwg o'r Llafurlu. Hon yw'r astudiaeth cartref fwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae'n rhoi'r mesurau swyddogol o gyflogaeth a diweithdra.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?

Drwy gymryd rhan yn ein hastudiaeth, byddwch yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau am faterion sy'n effeithio ar y gymuned gyfan, gan gynnwys gwaith, diweithdra, hyfforddiant, ymddeol a gofalu am y teulu a'r cartref.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon. Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi dethol â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o statws cyflogaeth ac amgylchiadau eraill y genedl. Drwy gymryd rhan, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o ddarlun ehangach bywyd yn y Deyrnas Unedig heddiw ac yn helpu i lywio polisïau sy'n effeithio ar bawb yn y Deyrnas Unedig.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Mae'r adran hon yn disgrifio'r broses y byddai ein hastudiaeth yn ei dilyn fel arfer. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn eich cadw chi a'n cydweithwyr yn ddiogel.

Darllenwch fwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud yn ein datganiad.

Bydd cyfwelydd yn cysylltu â chi i drefnu amser addas ar gyfer cynnal y cyfweliad. Caiff data holiadur eu casglu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio holiaduron gyda chymorth cyfrifiaduron, neu cânt eu cwblhau dros y ffôn. Os byddwch yn cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ffôn, y rhif y byddwn yn ei ddefnyddio i'ch ffonio fydd +44 (0)2392 958 174.

Yn ystod y cyfweliad byddwn yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau'r cartref cyfan ac yn gofyn cwestiynau i chi am amrywiaeth o bynciau, er enghraifft, iechyd, gofalu am y teulu a'r cartref, statws cyflogaeth, addysg, a chyfleoedd hyfforddiant. Weithiau bydd hyn yn cynnwys un aelod o'r cartref yn cymryd rhan ar ran pobl eraill sy'n byw yno.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Mae adrannau'r Llywodraeth yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth i nodi sut a lle y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus. Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut y mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.

Mae ysgolion a phrifysgolion yn defnyddio ein hystadegau wrth astudio llawer o wahanol bynciau.

Mae enghreifftiau o'r ystadegau a gynhyrchir gan un o'n hastudiaethau i'w gweld ar dudalennau thema'r Farchnad Lafur.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y Llywodraeth. Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad a gynhelir bob deng mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth ac ymfudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Ydy, mae deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r Llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r Llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Dewisir sampl o gartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Ar ôl i gartref gael ei ddewis, ni ellir dewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r arolwg. Golyga hyn fod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth swyddogol hon wrth sicrhau y cynrychiolir pob grŵp yn y gymuned yn briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar +44 (0)800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:

O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Anfon eich anrheg diolch. Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Love2shop.

  • Ein helpu ni i gysylltu. Ein darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyn yw Total Mobile a GovNotify.

Nôl i'r tabl cynnwys