1. Cyflwyniad

Mae'r Arolwg ar Amodau Byw yn casglu gwybodaeth am adnoddau'r cartref, tai, cyflogaeth, budd-daliadau, pensiynau a llesiant. Bydd yn helpu'r Llywodraeth i ddeall sut mae rhannau gwahanol o gymdeithas yn ymdopi heddiw, er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol, asesu effeithiau newidiadau polisi a mesur cyflwr yr economi. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio'r canlyniadau i fonitro a llywio polisïau sydd â'r nod o fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?

Mae'r astudiaeth yn darparu gwybodaeth am adnoddau cartrefi yn y Deyrnas Unedig heddiw. Defnyddir yr Arolwg fel adnodd allweddol ar gyfer mesur tlodi ac allgáu cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig.

Caiff ei ddefnyddio i helpu'r Llywodraeth i ddeall sut mae rhannau gwahanol o gymdeithas yn ymdopi heddiw, er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol, asesu effeithiau newidiadau polisi a mesur cyflwr yr economi.

Mae'n bwysig bod penderfyniadau yn cael eu seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf am y boblogaeth, a'u bod yn adlewyrchu newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon.

Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn y Deyrnas Unedig heddiw a bydd yn helpu i ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Mae'r adran hon yn disgrifio'r broses y byddai ein hastudiaeth yn ei dilyn fel arfer. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn eich cadw chi a'n cydweithwyr yn ddiogel.

Darllenwch fwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud yn ein datganiad.

Bydd cyfwelydd yn trefnu amser addas i ymweld â chi er mwyn cynnal y cyfweliad. Caiff data holiadur eu casglu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio holiaduron gyda chymorth cyfrifiaduron. Gofynnir cwestiynau i chi am sawl agwedd ar fywyd gan gynnwys tai, cyflogaeth, iechyd ac incwm.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Caiff y canlyniadau eu defnyddio gan adrannau'r Llywodraeth, elusennau ac academia i ymchwilio i feysydd megis addysg, iechyd, tai a thlodi.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio'r canlyniadau i fonitro a llywio polisïau sydd â'r nod o fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y llywodraeth.

Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig, sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad a gynhelir bob 10 mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth ac ymfudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Ydy, mae deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Dewisir sampl o gartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Ar ôl i gartref gael ei ddewis, ni ellir dewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r sampl. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth hon o ran sicrhau bod pob grŵp yn cael ei gynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar +44 (0)800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:

Ddydd Llun i ddydd Iau 9yb i 9yp
Dydd Gwener 9yb i 8yp
Dydd Sadwrn 9yb i 1yp

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Anfon eich anrheg diolch. Ein darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyn yw Love2shop a Sodexo.

  • Ein helpu ni i gysylltu. Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Total Mobile.

Nôl i'r tabl cynnwys